Math o ffrwydryn yw powdwr gwn (hefyd powdwr du). Fe'i gwneir trwy gyfuno sylffwr, golosg a potasiwm nitrad, ac fe'i defnyddir yn awr yn bennaf mewn gynnau ac mewn tân gwyllt.

Math diweddar o bowdwr du

Ystyrir powdwr gwn yn ffrwydryn isel, gan fod yr egni o'r ffrwydrad yn cael ei ryddhau'n gymarol araf. Fel rheol, mae'n cynnwys 75% o botasiwm nitrad, 15% o olosg a 10% o sylffwr. Y farn gyffredinol yw i bowdwr gwn gael ei ddarganfod yn Tsieina tua'r 9fed ganrif; ceir y cyfeiriad cyntaf ato mewn testun Taoaidd o tua chanol y ganrif honno. Ceir y cyfarwyddiadau cynharaf sut i'w wneud mewn testun milwrol o Tsieina yn dyddio o 1044. Nid yw'r gred gyffredinol mai dim ond mewn tân gwyllt y defnyddid powdwr gwn yn Tsieina yn gywir; fe'i defnyddid i bwrpasau milwrol hefyd. Mae'r gwn cynharaf sydd wedi goroesi yn dod o Tsieina ac yn dyddio o'r 13eg ganrif. Lledaenodd y wybodaeth am bowdwr gwn i'r byd Islamaidd tua'r un adeg. Cofnodir i'r Eifftiaid defnyddio powdwr gwn yn erbyn y Mongoliaid ym Mrwydr Ain Jalut yn 1260, ac eto yn 1304. Yn 1453, roedd gan fyddin Mehmed II wn enfawr oedd yn medru saethu meini 680 kg o bwysau. Defnyddiwd y gwn i falurio muriau Caergystennin a chipio'r ddinas, gan roi diwedd ar yr Ymerodraeth Fysantaidd.