Math o ddyfeisiadau pyrotechnegol, ffrwydrol a ddefnyddir fel rhan o ddathliadau ydy tân gwyllt. Gan amlaf, gwelir tân gwyllt fel rhan o arddangosfa gyhoeddus e.e. Agoriad yr Olympics. Mae gan dân gwyllt bedwar prif effaith: sŵn, golau, mwg a deunyddiau sy'n arnofio, (fel conffeti).

Tân gwyllt yn Dortmund, yr Almaen.

Gellir defnyddio gallu a sgil pyrotechnegol i greu i losgi gyda fflamau a gwreichion lliwgar, sydd fel arfer yn goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, porffor ac arian. Ceir arddangosfeydd ledled y byd ac maent yn ganolbwynt i nifer o ddathliadau crefyddol a diwylliannol.

Gelwir y tân gwyllt mwyaf llachar yn Mag Stars a'u tanwydd yw aliminiwm. Mae ambell danwydd yn wenwynig.

Tân Gwyllt Amryliw golygu

 
Hen ysgythriad yn dangos tân gwyllt ar Afon Tafwys, Llundain yn 1749.
Lliw Metal Cyfansoddion cemegol (esiamplau)
Coch Strontiwm (coch cryf)

Lithium (coch canolig)

SrCO3 (strontiwm carbonad)

Li2CO3 (lithiwm carbonad) LiCl (lithiwm clorid)

Oren Calcium CaCl2 (calsiwm clorid)
Melyn Sodiwm NaNO3 (sodium nitrad)
Gwyrdd Bariwm BaCl2 (bariwm clorid)
Glas Copr CuCl2 (copper chloride), ar dymheredd isel
Indigo Cesiwm CsNO3 (cesiwm nitrad)
Fioled Potasiwm

Rwbidiwm (fioled-coch)

KNO3 (potasiwm nitrad)

RbNO3 (rubidiwm nitrad)

Aur Siarcol, haearn neu lampblack
Gwyn Titaniwm, aliwminim, beryliwm neu bowdr magnesiwm
Gŵyl draddodiadol gyda chanu a thân gwyllt;
ffilmiwyd yn 2008.

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

Chwiliwch am tân gwyllt
yn Wiciadur.