Prawf goddefiad glwcos

Prawf gwaed i brofi am lefelau uchel o glwcos yn y gwaed sydd yn arwydd o ddiabetes yw prawf goddefiad glwcos (GTT).[1][2] Mae'n profi gallu'r corff i fetaboleiddio carbohydradau.[3]

Proses golygu

Yn aml mae'r claf yn bwyta deiet uchel mewn carbohydradau am tri niwrnod cyn y prawf.[3] Gofynnir i'r claf ymprydio y noson cyn y prawf ac yna cymerir sampl o waed. Gofynnir i'r claf yfed 75g o glwcos wedi'i doddi mewn 250–350 ml o ddŵr, a dwy awr yn ddiweddarach cymerir sampl arall o waed. Wrth fesur y lefelau glwcos yn y ddwy sampl, rhoddir ystyriaeth i'r ffaith bod y crynodiad glwcos a fesurir mewn plasma 10% yn uwch nag mewn gwaed cyflawn.[4]

Diagnosteg golygu

Defnyddir prawf goddefiad glwcos gan amlaf i wneud diagnosis o ddiabetes, hypoglycemia, neu anhwylderau eraill sy'n effeithio ar fetaboledd garbohydradau.[3]

Yng Nghymru gwneir diagnosis o ddiabetes gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol os bydd lefel y glwcos yn y sampl gwaed ar ôl ymprydio dros 6.7 mmol/l neu os bydd y lefel mewn plasma dros 7.8 mmol/l a/neu os bydd y lefelau yn yr ail sampl yn 10 mmol/l ac 11.1 mmol/l.[4]

Meini prawf Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer diabetes (2006) – dehongli prawf goddefiad glwcos geneuol[5][6]
Lefelau glwcos Normal Glycaemia ymprydio amharedig (IFG) Goddefedd glwcos amharedig (IGT) Diabetes mellitus (DM)
Plasma gwythiennol Ymprydio 2 awr Ymprydio 2 awr Ymprydio 2 awr Ymprydio 2 awr
(mmol/l) <6.1 <7.8 > 6.1 & <7.0 <7.8 <7.0 >7.8 & <11.1 >7.0 >11.1
(mg/dl) <110 <140 >110 & <126 <140 <126 >140 & <200 >126 >200

Risgiau golygu

Gan fod maint gwythiennau a rhydwelïau yn amrywio o glaf i glaf ac o un ochr o'r corff i'r ochr arall, gall cymryd sampl gwaed o rai pobl fod yn anoddach nag o bobl eraill. Gall risgiau eraill sy'n gysylltiedig â chymryd sampl gwaed cynnwys gwaedu gormodol, llewygu neu deimlo'n benysgafn, hematoma, neu haint.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. O'r Saesneg: glucose tolerance test.
  2.  Prawf goddefiad glwcos: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 1 Hydref, 2009.
  3. 3.0 3.1 3.2 Mosby's Medical Dictionary, wythfed argraffiad (2009). ISBN 9780323052900
  4. 4.0 4.1  Prawf goddefiad glwcos: Sut mae'n cael ei wneud?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 1 Hydref, 2009.
  5. (Saesneg) Definition and diagnosis of diabetes mellitus and intermediate hyperglycemia. Cyfundrefn Iechyd y Byd (2006). Adalwyd ar 3 Hydref, 2009.
  6. (Saesneg) Dr Huw Thomas, Dr Sean Kavanagh (13 Gorffennaf, 2009). Glucose Tolerance Tests. Patient UK. Adalwyd ar 3 Hydref, 2009.
  7. (Saesneg) Glucose tolerance test: Risks. MedlinePlus. Adalwyd ar 2 Hydref, 2009.