Defnyddir profion meddygol gan feddygon i gasglu gwybodaeth feddygol am glaf ac i wneud diagnosis o glefyd neu gyflwr.[1] Fe wneir rhai profion gan feddyg cyffredinol (yn y Deyrnas Unedig meddyg teulu) yn y feddygfa, megis profion gwaed neu wrin, ac yna fe anfonir y samplau at labordy meddygol am archwiliad, ond ar gyfer rhai profion caiff claf ei gyfeirio at arbenigwr gan ei feddyg neu ddeintydd.[2] Oherwydd natur rhai profion, mae'n bosib y gofynnir i'r claf i beidio â bwyta nac yfed am sawl awr cyn y prawf. Anfonir canlyniadau'r prawf at y meddyg teulu; mae'r amser mae'n cymryd i ganlyniadau gael eu casglu, eu hanfon ac yna cyrraedd y meddyg yn dibynnu ar y prawf, a gall amrywio o ychydig ddiwrnodau i ychydig wythnosau.[3]

Enghreifftiau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Profion: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 17 Medi, 2009.
  2.  Profion: Sut mae'n gweithio?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Medi, 2009.
  3.  Profion: Canlyniadau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Medi, 2009.