Priapws o Hostafrancs
Cerflun Rhufeinig o'r Ail neu'r Drydedd ganrif yw Priapws o Hostafrancs, a ddarganfuwyd yng nghymdogaeth Hostafrancs, un o faestrefi Barcelona yng Nghatalwnia. Mae i'w gweld yn Amgueddfa Archeoleg Catalwnia.
Enghraifft o'r canlynol | cerflun |
---|---|
Deunydd | tywodfaen |
Gwlad | Catalwnia |
Dechrau/Sefydlu | 2 g |
Lleoliad | Barcelona |
Disgrifiad
golyguMae'r cerflun wedi'i gerfio mewn tywodfaen o Montjuïc ar ddiwedd yr 2g neu ddechrau'r 3g a hynny mewn gweithdai lleol ym Marcelona. Nid yw o ansawdd gwych, ond fe'i cedwir mewn cyflwr derbyniol, er bod y pen ar goll. Mae'n darlunio Priapws, sef un o dduwiau natur a ffrwythlondeb planhigion ac anifeiliaid ym mytholeg Glasurol, yn codi ei wisg i ddatgelu pidyn anferthol; mae'n dal ei ddillad i gario ffrwythau a blodau fel symbolau o ffrwythlondeb. Mae'r cerflun yn fwy na 2 fetr o uchder ac mae ganddo orffeniad llyfn ar y cefn, felly mae'n debyg y byddai wedi'i gysylltu â theml neu wrth fynedfa gardd fila urddasol.[1]
Roedd Priapws yn dduw ffrwythlondeb o darddiad Groegaidd, a gynrychiolir gan ddyn ifanc gyda chodiad. Roedd hefyd yn cael ei addoli gan y Rhufeiniaid. Roedd yn symbol o ffrwythlondeb a hefyd yn amddiffyn gerddi, felly fe'i gosodwyd wrth fynedfeydd perllannau a gerddi.
Hanes
golyguFe'i darganfuwyd yng Ngorffennaf 1848 mewn gwaith ffordd ger Creu Coberta (Croes Coberta), yng nghymdogaeth Hostafrancs, a groeswyd yn oes y Rhufeiniaid gan gangen o'r Via Augusta gan ffordd y Bordeta. Rhoddodd perchennog y tir, Pau Foxart, y cerflun i Gyngor Dinas Barcelona trwy Academi'r Celfyddydau Cain.[2]
Wedi cyfnod mewn ambell warws, cyrhaeddodd y cerflun Amgueddfa Archaeoleg Catalwnia. Arddangoswyd y cerflun o'r diwedd ym 1986, fel rhan o arddangosfa El Museu Secret ac mae wedi bod yn rhan o'r arddangosfa barhaol ers hynny.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Carta Arqueològica de Barcelona - Príap d'Hostafrancs/1848". Cyrchwyd 2021-04-01.
- ↑ NacióDigital. "El Príap d'Hostafrancs | NacióDigital". Cyrchwyd 2021-04-01.