Un o dduwiau'r maes a ffrwythlondeb planhigion a diadellau ym mytholeg Glasurol oedd Priapus. Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Aphrodite (Gwener y Rhufeiniaid) a Dionysus (neu Mercher). Fe'i portreadir fel rheol fel ffigwr lled-gomig a chanddo bidyn anferth. Roedd garddio, gwinllanoedd, bugeilio defaid a geifr, cadw gwenyn a hefyd pysgota (yn ôl rhai ffynonellau) i gyd dan ei nawdd.

Priapus
Enghraifft o'r canlynolcymeriad chwedlonol Groeg, duwdod ffrwythlondeb Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duw lleol yn Asia Leiaf oedd Priapus ar y dechrau, a addolid yn ninasoedd Groeg yr Hellespont, yn arbennig Lampsacus, ei dref enedigol yn ôl mytholeg Roeg. Cafodd ei gymhathu â'r duwiau Olympaidd ac ymledodd ei gwlt drwy Roeg a de'r Eidal. Fel rheol codid cerfluniau ohono mewn gerddi, yn arbennig ar ffurf hermau cyntefig o bren neu garreg yn dangos ei ffalws, pastwn a chryman. Offrymid iddo blaenffrwythau'r ardd a'r maes. Ceir tystiolaeth fod asynod yn cael eu hoffrymu iddo weithiau yn ogystal. Roedd y llawryf yn gysegredig iddo.

Yn ôl y chwedl ffrwyth cyfathrach rhwng Aphrodite a Bacchus/Dionysus pan ddychwelodd y duw hwnn o India oedd Priapus. Roedd yn edrych mor hyll, am fod Hera wedi difetha ei goesau wrth ei dynnu i'r byd, fel bod ei fam wedi rhoi'r baban allan ar y mynydd i gael gwared ohono. Cafodd ei achub gan fugeiliaid. Cafodd ei alltudio o Lampsacus am fod yn rhy rydd efo gwragedd y ddinas ond dychwelodd i achub y trigolion o bla a chodwyd nifer o demlau iddo yno.

Roedd "Priapus" yn enw ar dref ger Lampsachus hefyd, yn ôl Strabo, yn ogystal â bod yn enw ar ynys fechan ger Ephesus.

Addoli Priapus: darlun seiliedig ar bas-relief o Pompeii

Cyfeiriadau golygu

  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)