Prif Weinidog Gogledd Iwerddon

Arweinwyr llywodraeth ddatganoledig neu weithrediaeth Gogledd Iwerddon yw Prif Weinidog Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Céad-Aire, Saesneg: First Minister, Sgoteg Ulster: Heid Männystèr) a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Mae'r llywodraeth ei hun yn cael ei ffurfio gan y brif bleidiau yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ac mae'n rhaid i'r brif weinidog a'i ddirprwy fod yn aelodau o'r Cynulliad hwnnw.

Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
Enghraifft o'r canlynolswydd, sefydliad y llywodraeth Edit this on Wikidata
Mathprif weinidog Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Gorffennaf 1998 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysPrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Dirprwy Brif Weinidog Edit this on Wikidata
PencadlysBelffast Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ofmdfmni.gov.uk/ Edit this on Wikidata

Ers mis Ionawr 2020, Arlene Foster a Michelle O'Neill yw'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn ôl eu trefn.

Yn wahanol i'r sefyllfa mewn gwledydd eraill, mae'r un grymoedd yn union gan y Dirprwy Brif Weinidog a'r Prif Weinidog. Ers Cytundeb Gwener y Groglith, rhaid i un fod yn unoliaethydd a'r llall yn genedlaetholwr.

Sefydlwyd y swydd yn 2001 pan ddaeth David Trimble yn brif weinidog cyntaf Gogledd Iwerddon. Bu'r swydd heb ddeiliad o 2002 hyd fis Mai 2007 oherwydd anghydfod gwleidyddol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Ar yr 8fed o Fai 2007 apwyntiwyd y Parch. Ian Paisley yn Brif Weinidog. O 5 Mehefin 2008 tan 2016, Peter Robinson oedd y Prif Weinidog gyda Martin McGuinness yn Ddirprwy Brif Weinidog mewn cynllun rhannu grym rhwng yr Unoliaethwyr a'r Gweriniaethwyr. Cymerodd Arlene Foster yr awenau yn 2016, ond roedd y swydd yn wag eto rhwng 2017 a 2020.

Prif Weinidogion golygu

Gweinidog Plaid Dechrau'r swydd Gadael y swydd
    David Trimble Plaid Unoliaethol Ulster 2 Rhagfyr 1999 11 Chwefror 2000
Gohirwyd y swydd
    David Trimble Plaid Unoliaethol Ulster 30 Mai 2000 30 Mehefin 2001
    Syr Reg Empey (Dros dro) Plaid Unoliaethol Ulster 1 Gorffennaf 2001 6 Tachwedd 2001
    David Trimble Plaid Unoliaethol Ulster 6 Tachwedd 2001 14 Hydref 2002
Gohirwyd y swydd
    Ian Paisley Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd 8 Mai 2007 5 Mehefin 2008
    Peter Robinson Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd 5 Mehefin 2008

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.