European University Association

Cymdeithas a grŵp cydweithio ar gyfer prifysgolion yn Ewrop (yn cynnwys Casachstan)

Mae'r European University Association (EUA) yn cynrychioli mwy na 800 o sefydliadau addysg uwch mewn 48 o wladwriaetau, gan roi fforwm iddynt gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth am bolisïau addysg uwch ac ymchwil.[1] Mae aelodau'r Gymdeithas yn brifysgolion Ewropeaidd sy'n ymwneud ag addysgu ac ymchwil, cymdeithasau cenedlaethol o reithorion a sefydliadau eraill sy'n weithgar mewn addysg uwch ac ymchwil.[2]

European University Association
Enghraifft o'r canlynoluniversity network Edit this on Wikidata
Label brodorolEuropean University Association Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Mawrth 2001 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Higher Education Area, American Council on Education, International Association of Universities, Coalition for Advancing Research Assessment, UNESCO Global Open Science Partnership Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolnon-profit organisation Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Enw brodorolEuropean University Association Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://eua.eu/ Edit this on Wikidata

Mae EUA yn ganlyniad i uno Association of European Universities a'r Confederation of European Union Rectors' Conferences. Digwyddodd yr uno yn Salamanca ar 31 Mawrth 2001.

Mae pencadlys yr EUA yn ninas Brwsel yn Ngwlad Belg.

Aelodaeth

golygu
 
Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe aelod o'r EUA
 
Prifysgol Bangor, un o'r aelodau o Gymru
 
Prifysgol Caerdydd sy'n un o'r aelodau o Gymru
 
Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd hefyd yn aelod o'r EUA

Y prifysgolion yng Nghymru sy'n aelodau (yn 2023) yw Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dyma ddadansoddiad o aelodaeth EUA fesul gwladwriaeth:

Gwladwriaeth Nifer Aelodau
  Yr Undeb Ewropeaidd 582
  Y Deyrnas Unedig 60
  Twrci 57
  Wcráin 27
  Romania 22
  Norwy 17
  Y Swistir 17
  Gwlad Groeg 14
  Casachstan 14
  Bwlgaria 9
  BIH 7
  Macedonia 7
  Georgia 6
  Serbia 4
  Gwlad yr Iâ 4
  Belarws 3
  Albania 3
  Armenia 2
  Aserbaijan 2
  Moldofa 2
  Kosovo[3] 2
  Dinas y Fatican 1
  Montenegro 1
  Andorra 1
  Liechtenstein 1
  Rwsia[4][5][6] 1[7]

Ym mis Mawrth 2022, ataliodd yr EUA 12 aelod o Rwsia yn dilyn anerchiad 2022 Undeb y Rheithoriaid Rwsiaidd (RUR) yn cefnogi goresgyniad yr Wcráin yn 2022, am fod “yn groes ddiametrig i’r gwerthoedd Ewropeaidd y gwnaethant ymrwymo iddynt wrth ymuno â’r UEA”.[4][5][6]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "European University Association (EUA)". eosc.eu. European Open Science Cloud. Cyrchwyd 18 April 2022.
  2. "Member directory". European University Association. Cyrchwyd 18 April 2022.
  3. Kosovo is the subject of a territorial dispute between the Republic of Kosovo and the Republic of Serbia. The Republic of Kosovo unilaterally declared independence on 17 February 2008. Serbia continues to claim it as part of its own sovereign territory. The two governments began to normalise relations in 2013, as part of the 2013 Brussels Agreement. Kosovo is currently recognised as an independent state by 97 out of the 193 United Nations member states. In total, 112 UN member states have recognised Kosovo, of which 15 later withdrew their recognition.
  4. 4.0 4.1 O’Malley, Brendan (7 March 2022). "EUA suspends 12 Russian members who back Putin's invasion". University World News. Cyrchwyd 18 April 2022.
  5. 5.0 5.1 Matthews, David (7 March 2022). "European University Association suspends Russian members over pro-war statement". Science|Business. Cyrchwyd 18 April 2022.
  6. 6.0 6.1 Lem, Pola (7 March 2022). "Russian rectors' union echoes Kremlin propaganda on Ukraine: Heads of learned institutions back Putin in the 'most difficult decision in his life'". Times Higher Education. Cyrchwyd 18 April 2022.
  7. 14 Russian EUA members suspended as of 18 April 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.