Prifysgol Padova
Prifysgol gyhoeddus hunanlywodraethol a leolir yn ninas Padova, Veneto, yng ngogledd yr Eidal yw Prifysgol Padova (Eidaleg: Università degli Studi di Padova, UNIPD). Dyma'r brifysgol hynaf ond un yn yr Eidal, a'r brifysgol bumed hynaf yn y byd sydd yn dal i weithredu (ar ôl Bologna, Rhydychen, Caergrawnt, a Salamanca).
Arwyddair | Universa universis patavina libertas |
---|---|
Math | prifysgol |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ELIXIR Italy |
Lleoliad | Padova |
Sir | Padova |
Gwlad | Yr Eidal |
Cyfesurynnau | 45.42°N 11.87°E |
Sefydlwyd ym 1222 gan ryw fil o fyfyrwyr yn symud o Brifysgol Bologna, y brifysgol hynaf yn y byd sydd yn dal i fod. Bu'r ddwy brifysgol dan reolaeth y myfyrwyr a fyddai'n ethol yr athrawon ac yn pennu eu cyflogau. Ymwahanodd rhai o'r myfyrwyr oddi wrth Brifysgol Padova ym 1228 i ffurfio'r brifysgol gyntaf yn y byd i dderbyn arian gyhoeddus yn Vercelli; caeodd yr honno ym 1372, Goroesai Prifysgol Padova trwy gydol y 13g a'r 14g, er gwaethaf troeon grym a'r brwydro rhwng Padova a Verona. Symudodd rhagor o fyfyrwyr o Bologna i atgyfnerthu'r niferoedd yn Padova ym 1306 a 1322,[1] a derbyniodd ar ffurf bwl gydnabyddiaeth swyddogol o freintiau ei statws fel studium generale oddi ar y Pab Clement VI ym 1346.[2] Ar y cychwyn bu'n brifysgol y gyfraith sifil a'r gyfraith ganonaidd yn bennaf, a thyfai'i hadrannau athroniaeth, diwinyddiaeth, a meddygaeth yn raddol. Ym 1399 rhannwyd y brifysgol yn ddwy, gan wahanu adrannau'r gyfraith oddi ar adrannau'r celfyddydau a meddygaeth; ni chawsant eu haduno dan yr un weinyddiaeth nes dechrau'r 19g.[1]
Yn ystod y Dadeni Dysg, daeth Prifysgol Padova yn ganolfan i astudiaeth y clasuron, yn enwedig y beirdd Rhufeinig, a fyddai'n cael dylanwad hollbwysig ar ddatblygiad dyneiddiaeth y Dadeni. Erbyn yr 16g, Padova oedd un o ddwy neu dair prifysgol flaenaf Ewrop ac yn gartref i athrawon enwoca'r Gristionogaeth, yn eu plith athronwyr, dyneiddwyr, a gwyddonwyr megis Galileo. Sefydlwyd gardd fotaneg y brifysgol, yr hynaf o'i bath yn Ewrop, ym 1545, a'r arsyllfa seryddol ym 1761.[1]
Mae adrannau cyfoes y brifysgol yn cynnwys y gyfraith, gwyddor gwleidyddiaeth, y celfyddydau a llenyddiaeth, athroniaeth, addysg, mathemateg, ffiseg a'r gwyddorau naturiol, economeg a masnach, ystadegaeth, fferylliaeth, amaethyddiaeth, peirianneg, a meddygaeth.
Mae'n aelod o Grŵp Coimbra ar gyfer prifysgolion Ewropeaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) University of Padua. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Hydref 2021.
- ↑ A. B. Cobban, The Medieval Universities: their development and organization (Llundain: Metheun & Co, 1975), t. 29.