Dinas yng Ngogledd Macedonia yw Prilep (Tyrceg: Perlepe). Saif i dde'r brifddinas Skopje, ar y rheilffordd rhwng Titov Veles a Bitola.

Prilep
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth63,308 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethQ61119921 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, CEST Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Zadar, Radom, Garfield, Deyang, Chernihiv, Asenovgrad, Verona, Koper, Topoľčany, Nikšić Edit this on Wikidata
NawddsantSant Nicolas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Prilep, Strymon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Macedonia Gogledd Macedonia
Arwynebedd1,194.44 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr620 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.3464°N 21.5542°E Edit this on Wikidata
Cod post7500 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethQ61119921 Edit this on Wikidata
Map

Roedd Prilep yn ganolfan bwysig yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae sawl eglwys a mynachlog o'r cyfnod hwnnw gan gynnwys Eglwys Sant Niclas, a adeiladwyd ym 1299 ac sydd yn enwog am ei ffresgoau, a Mynachlog yr Archangel Mihangel ac Eglwys Sant Demetrius, y ddau ohonynt a godwyd yn y 14g. Ar un pryd bu Stefan Dušan, Brenin Serbia o 1331 i 1346, yn byw yma. Prilep oedd man geni Marko Kraljević, Brenin Serbia o 1371 i 1395, ac un o brif arwyr y Balcanau yn y frwydr yn erbyn yr Otomaniaid. Mae olion o Gastell Prilep, a godwyd gan y Brenin Marko, yn sefyll hyd heddiw.

Prilep yw'r ddinas bedwaredd fwyaf yng Ngogledd Macedonia ac yn brif ganolfan i fasnach a gweithgynhyrchu yn ardal Pelagonia. Tyfir ffrwythau a thybaco yn iseldiroedd ffrwythlon Basn Prilep, ac yma hefyd cynhyrchir tecstilau, gwin, a lledr. Gwneir briciau silica a defnyddiau ynysol o ddiatomit yn y ddaear.[1]

Gostyngodd y boblogaeth o 71,899 ym 1994[2] i 66,246 yn 2002, ac i 64,830 yn 2016.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Prilep. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mai 2021.
  2. (Saesneg) "Prilep", The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar Mai 2021.