Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Chernihiv yw Chernihiv (Wcreineg: Чернігів) a leolir yng ngogledd canolbarth y wlad, nid nepell o'r ffîn â Ffederasiwn Rwsia. Saif ar Afon Desna, i ogledd-ddwyrain y brifddinas Kyiv.

Chernihiv
Trem ar warchodfa Chernihiv Hynafol: (o'r chwith i'r dde) Eglwys Gadeiriol y Gweddnewidiad, Eglwys Gadeiriol y Saint Boris a Hlib, a Cholegiwm Chernihiv.
Mathdinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin Edit this on Wikidata
Poblogaeth286,899 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethVladyslav Atroshenko Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Prilep, Gabrovo, Tarnobrzeg, Memmingen, Hradec Králové, Ogre, Petah Tikva, Rzeszów, Reims Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirChernihiv Raion Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd79 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr136 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4939°N 31.2947°E Edit this on Wikidata
Cod post14000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholChernihiv City Council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Chernihiv Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethVladyslav Atroshenko Edit this on Wikidata
Map

Sonir am yr anheddiad hwn yn gyntaf yn 907, er bod olion archaeolegol yn awgrymu i bobl drigo yno ers y 7g. Sefydlwyd Tywysogaeth Chernihiv yn 988, a Chernihiv oedd un o brif ddinasoedd Rws Kiefaidd. Dirywiodd ei phwysigrwydd yn sgil goresgyniad y Mongolwyr dan arweiniad Batu Khan ym 1239–40, a daeth dan reolaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1353. Ymosodwyd ar y ddinas gan luoedd Chaniaeth y Crimea ym 1482 a 1497, a châi ei rheoli gan Uchel Ddugiaeth Mysgofi o 1408 i 1420 ac o 1503 nes i'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ei chipio ym 1618. Roedd yn un o ganolfannau milwrol yr Hetmanaeth Gosacaidd (Llu Zaporizhzhia), a daeth dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia ym 1667. Yn sgil diddymu'r Hetmanaeth ym 1764 byddai Chernihiv (neu Chernigov yn Rwseg) yn ganolfan weinyddol ranbarthol yn Ymerodraeth Rwsia, yn gyntaf i Lywodraethiaeth Malorossiya (1796–1802) ac yna Llywodraethiaeth Chernigov (1802–1918).

Tyfodd y ddinas fel croesfan yn yr oes ymerodrol, gan fanteisio ar ei phorthladd ar y Desna—un o brif isafonydd y Dnieper—a'i safle ar y ffordd rhwng Kyiv a Moscfa. Adeiladwyd gyffordd rheilffyrdd Chernihiv yn y cyfnod Sofietaidd, ac ymhlith y diwydiannau a ffynnai yn y ddinas mae gweithgynhyrchu ffibrau synthetig, peirianwaith, teiars, a nwyddau traul, gwaith pren a gwneuthuro pianos, a thrin bwydydd a gwlân.

Codwyd Eglwys Gadeiriol y Gweddnewidiad ym 1036, Eglwys y Dyrchafael ym Mynachlog Yelets yn y 11g, ac adeilad milwrol yn y dull baróc gan yr Hetman Ivan Mazepa yn nechrau'r 18g. Ymhlith y sefydliadau addysg mae Prifysgol Genedlaethol Bolytechnig Chernihiv (sefydlwyd 1960) a Choleg Diwinyddol Chernihiv (sefydlwyd 1776).

Cynyddodd y boblogaeth o 296,000 ym 1990[1] i 305,000 yn 2001,[2] ond gostyngodd i 300,000 yn 2005[2] ac i 285,000 yn 2021.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Chernihiv" yn The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 26 Mawrth 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Chernihiv. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mawrth 2022.