Profi, Olrhain a Diogelu

system NHS Cymru i atal COVID-19 rhag ymledu

Cyhoeddwyd y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu ar 13 Mai 2020, yng nghanol y pandemic COVID-19, er mwyn ceisio atal pobl wedi dal yr haint rhag heintio eraill. Mae'n system sy'n ymwneud â phrofi pobl â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai y maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw ac amddiffyn teulu, ffrindiau a'n cymuned trwy hunan-ynysu.

Profi, Olrhain a Diogelu
Enghraifft o'r canlynolsystem, ymgyrch Edit this on Wikidata
Rhan oGwasanaeth Iechyd Gwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu13 Mai 2020 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Fideo gan Lywodraeth Cymru: Profi. Olrhain. Diogelu. Chwefror 2021

Cyhoeddwyd strategaeth Profi newydd ar 15 Gorffennaf, sy'n nodi'n union sut y bydd profion yn gweithio a sut y gellid adeiladu capasiti ar gyfer y posibilrwydd o ail don.

Gweithredir y system Profi, Olrhain a Diogelu gan GIG Cymru ac mae'n cynnwys nifer o bartneriaid sy'yn gweithio gyda'i gilydd i helpu atal lledaeniad y firws: Iechyd Cyhoeddus Cymru, i'r Byrddau Iechyd lleol ac Awdurdodau Lleol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac eraill. Dyma un o'r prosiectau iechyd cyhoeddus mwyaf mewn cenhedlaeth.[1]

Mae ap COVID-19 y GIG Archifwyd 2021-02-27 yn y Peiriant Wayback. yn rhan o'r rhaglen Profi Olrhain Diogelu i reoli lledaeniad COVID-19.

Hunan-brofi (Mawrth 2021) golygu

Ym Mawrth 2021 cyhoeddodd y Llywodraeth gyfres o fideos byr yn dangos sut i hunan-brofi am y Gofid Mawr.

Cyfeiriadau golygu

  1. [dolen marw] Llywodraeth Cymru; adalwyd 11 Chwefror 2021.