Protëws (lloeren)

Protëws yw'r chweched o loerennau Neifion, a'r ail fwyaf ohonynt.

  • Cylchdro: 117,600 km oddi wrth Neifion.
  • Tryfesur: 418 km (436x416x402)
  • Cynhwysedd: ?
Protëws
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Neifion, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs50 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod16 Mehefin 1989 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.00053 Edit this on Wikidata
Radiws210 ±7 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protëws

Mae Protëws yn dduw morol a chanddo'r gallu i newid ei ffurf, yn fab i Poseidon a Thethys ym mytholeg Roeg.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan y chwiliedydd Voyager 2 ym 1989. Er ei bod yn fwy na Nereid ni chafodd ei darganfod am iddi fod mor dywyll ac mor agos i Neifion fel ei fod yn anodd ei gweld hi o fewn disgleirdeb y cawr nwy.

Mae gan Protëws ffurf afreolaidd (sef dim yn gronnell). Mae Protëws yn debyg o fod mor fawr fel y gall corff afreolaidd fod cyn iddo gael ei newid i ffurf gronnell gan ddisgyrchiant.

Nid ydy ei harwyneb llawn craterau yn dangos unrhyw arwyddion o weithgaredd geolegol.