Voyager 2
Cerbyd ofod a labordy gwyddonol oedd Voyager 2, un o gyfres o gerbydau archwilio gofod Voyager NASA. Cafodd ei lawnsio ar 20 Awst, 1977, gyda'r bwriad o archwilio systemau planedol Iau a Sadwrn, yn cynnwys eu lloerennau a cylchoedd Sadwrn.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | chwiliedydd gofod ![]() |
---|---|
Màs | 815 cilogram, 735 cilogram ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhan o | Rhaglen Voyager ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Voyager 1 ![]() |
Gweithredwr | NASA ![]() |
Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet ![]() |
Pellter o'r Ddaear | 136.10177437 uned seryddol ![]() |
Gwefan | http://voyager.jpl.nasa.gov/ ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a4/Titan_3E_Centaur_launches_Voyager_2.jpg/250px-Titan_3E_Centaur_launches_Voyager_2.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/58/Voyager_2_Triton_14bg_r90ccw_colorized.jpg/250px-Voyager_2_Triton_14bg_r90ccw_colorized.jpg)
Record Aur
golyguCariodd y roced (fel Voyager 1 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd)[1]. Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Y Gymraeg yn y gofod". BBC Cymru Fyw. 15 Medi 2017.