Agor y brif ddewislen

Hanesydd Cymreig a llenor yw Prys Tomos Jon Morgan (ganed 7 Awst 1937).[1] Mae wedi ysgrifennu sawl cyfrol ac erthygl ar hanes Cymru, yn Saesneg, ac ar hyn o bryd mae'n gyd-gyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth. Yn ystod ei yrfa mae wedi bod yn ddarlledwr, yn olygydd cylchrawn ac yn awdur ffuglen a barddoniaeth Gymraeg yn ogystal.

Prys Morgan
Ganwyd 1937 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Hanesydd, Bardd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/au Fellow of the Learned Society of Wales, Fellow of the Royal Historical Society Edit this on Wikidata

GyrfaGolygu

Ganed Prys Morgan yn ninas Caerdydd, yn fab i'r academydd T. J. Morgan. Ganwyd ei frawd iau Rhodri, a ddaeth yn Brif Weinidog Cymru, ddwy flynedd ar ei ôl yn 1939. Fel ei frawd, astudiodd Prys Morgan yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen, cyn dod yn aelod o staff Adran Hanes Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, lle bu ei dad yn athro o'i flaen. Bu'n ddirprwy olygydd y cylchgrawn Barn o 1966 hyd 1973.[2]

Ar ôl ymddeol o'r byd academaidd daeth yn Arlywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac yn Arlywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ar ôl cyfnod hir fel golygydd Trafodion y Gymdeithas. Er ei fod wedi ymddeol fel athro, mae'n gyd-gyfarwyddwr Prosiect Iolo Morganwg yn y Ganolfan Efrydiau Cymreig a Cheltaidd, prosiect y mae ei ymchwil yn dwyn ffrwyth fel cyfres o gyfrolau newydd ar bob agwedd ar fywyd a gwaith y llenor a ffugiwr enwog hwnnw o'r 18g.

Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.

GwaithGolygu

Ymhlith llyfrau Prys Morgan[2] ceir:

Llyfrau academaidd
  • Background to Wales (1968). Hanes.
  • Iolo Morganwg (1975). Cyfres Writers of Wales.
  • The Eighteenth Century Renaissance (1981). Astudiaeth arloesol o ddadeni diwylliannol y 18g.
  • Wales: The Shaping of a Nation (1984). Hanes
  • Bible for Wales – Beibl i Gymru (1988).
  • Tempus Illustrated History of Wales (2000)
Ffuglen a cherddi
  • I'r Bur Hoff Bau (1968). Nofel
  • Trugareddau (1973). Cerddi.
Cyfieithiad

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Phillip Stribe. Ymchwil Achau - "Descendants of William Phillips". Adalwyd ar 3 Chwefror 2015.
  2. 2.0 2.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.