Cap hud
Cap hud Psilocybe semilanceata | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Fungi |
Rhaniad: | Basidiomycota |
Dosbarth: | |
Urdd: | Agaricales |
Teulu: | Strophariaceae |
Genws: | Psilocybe[*] |
Rhywogaeth: | Psilocybe semilanceata |
Enw deuenwol | |
Psilocybe semilanceata (Fr.) P.Kumm. (1871) | |
Cyfystyron[1] | |
Agaricus semilanceatus Fr. (1838) |
Madarchen sy'n cynnwys y cyfansoddyn seicoweithredol psilocybin, yw'r Cap hud (enw gwyddonol: psilocybe semilanceata), a adwaenir hefyd fel y fadarchen hud. 'Y Capiau Gwinau' yw’r enw ar lafar ar y grwp mae’r ffwng yma’n perthyn iddo, ond nid yw’n derm gwyddonol.
O blith holl rywogaethau y madarch psilocybin, hon yw un o'r rhai mwyaf cyffredin ac ynddi hithau y mae'r gyfran uchaf o psilocybin, ac felly mae'n un o'r cryfaf.
Mae ganddi gap pigfain adnabyddus, nid annhebyg i siâp cloch hyd at 2.5mm ar ei thraws gydag allwthiad megis tethen ar ei phen. Gall lliw y cap amrywio rhwng melyn a brown gyda rhychau rheiddiol. Mae ei choes fel arfer yn hirfain a'r un lliw â'r cap, neu ychydig yn oleuach. Mae ei sborau'n lliw hufen pan fo'r fadarchen yn ifanc, ond wrth iddi aeddfedu, trônt yn fwy porffor: mesurant rhwng 6.5 a 8.5 micrometr.[2]
Tyf y fadarchen hon mewn dolydd a phorfeydd gwelltog, yn enwedig os ydynt yn llaith ac yn wynebu tua'r gogledd ac wedi eu gwrteithio gan ymgarthion defaid a gwartheg. Ond yn annhebyg i ambell i rywogaeth psilocybin arall, nid yw'r psilocybe semilanceata yn tyfu'n uniongyrchol ar yr ymgarthion; yn hytrach, mae'n rhywogaeth saprobig sydd yn ymborthi ar wreiddiau glaswellt sydd yn pydru.
Geirdarddiad
golyguCymer y fadarchen hon ei henw cyffredin o'r cap Phrygiaidd, a elwir hefyd yn gap rhyddid (Saesneg: liberty cap), sydd yn ymdebygu i rith y fadarchen.[3] Daw ei henw generig o'r Roeg Hynafol psilos (ψιλός: "esmwyth", "moel") a'r Roeg Bysantaidd κύβη ("pen"); daw ei henw botanegol o'r Lladin semi ("hanner") a lanceata, o'r gair lanceolatus, sy'n golygu "siâp gwaywffon".[4] Disgrifiwyd ac enwyd y tason yma yn gyntaf gan y naturiaethwr Elias Magnus Fries.
Cynefin ac ecoleg
golyguMae psilocybe semilanceata yn ffwng saprobig, sydd yn golygu ei fod yn cael ei faetholion o ddadelfeniad mater organig. Tyf y madarch un ai ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau, gan amlaf mewn dolydd a phorfeydd. Fe'u ceir yn aml mewn caeau sydd wedi cael eu gwrteithio â biswail defaid neu wartheg, er nad ydynt yn tyfu'n uniongyrchol ar y biswail ei hun. Fel ambell i rywogaeth ffwng y glaswelltiroedd, gall Psilocybe tampanensis, Psilocybe mexicana a Conocybe cyanopus ffurfio sglerotia, sef ffurf o'r ffwng sy'n "cysgu", a thrwy hyn yn ei warchod i ryw raddau rhag tanau gwyllt a thrychinebau naturiol eraill.[5]
Defnydd Seicoweithredol
golyguCeir y cofnod dilys cyntaf o effeithiau seicoweithredol psilocybe semilanceata ar bobl yn 1799: sonia am deulu Prydeinig a fwytaodd saig a baratowyd gan ddefnyddio madarch a gasglwyd yn Green Park, Llundain. Yn ôl y fferyllydd Augustus Everard Brande, gwelwyd y symptomau a gysylltir yn aml â bwyta madarch hud, gan gynnwys ymledu canhwyllau llygaid a chwerthin digymell.
Yn y 60au cynnar bu'r gwyddonydd Swisaidd Albert Hofman— sy'n adnabyddus am iddo ddarganfod a syntheseiddio'r cyffur seicedelig LSD— yn dadansoddi madarch P. semilanceata a gasglwyd yn Ffrainc a'r Swistir gan y botegydd Roger Heim. Trwy ddefnyddio cromatograffeg bapur, cadarnhaodd Hoffman bresenoldeb psilocybin o 0.25%.
Mae nifer o astudiaethau wedi cael eu cynnal at feintioli cyfran y cyfansoddion rhithweledigaethol a geir yng nghorff y fadarchen P. senilanceata. Nododd Gatz yn 1993 gyfartaledd o 1% psilocybin (a fynegwyd fel canran o gyrff sych y madarch), yn amrywio o isafbwynt o 0.2% i uchafbwynt 2.37%, sef y crynodiad uchaf a gofnodwyd o unrhyw rywogaeth. Tueddir i weld crynodiadau uwch mewn sbesimenau llai o faint, tra bo'r cyfranau absoliwt uchaf i'w gweld yn y madarch mwyaf.
Mae sawl adroddiad o effeithiau bwyta P. semilanceata wedi eu cyhoeddi. Yn nodwedd amlycaf ohonynt yw gwyriadau gweledol, gwriadau yn y modd y canfyddir lliw, dyfnder a ffurf, hyd at rhithweledigaethau gweledol eraill. Mae'r effaith yn debyg i'r rhai a geir o gymeryd LSD, ond yn llai pwerus.
Statws cyfreithiol
golyguMae statws cyfreithiol madarch psilocybin yn amrywio ledled y byd. Yn y DU maent yn gyffyr dosbarth A ac fe'i cynhwysir mewn dosbarth o radd gyfatebol yn yr UDA. Yr olaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i ganiatau ei ddefnyddio oedd yr Iseldiroedd yn Hydref 2008 pan ddaeth deddfwriaeth newydd i rym.[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Psilocybe semilanceata (Fr.) P. Kumm. 1871". MycoBank. International Mycological Association. Cyrchwyd 2010-11-15.
- ↑ Ammirati J, Traquair JA, Horgen PA. (1985). Poisonous Mushrooms of the Northern United States and Canada. Ottawa, Canada: Fitzhenry & Whiteside in cooperation with Agriculture Canada. t. 149. ISBN 978-0-88902-977-4. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)CS1 maint: multiple names: authors list (link) - ↑ Weil A. (2004). The Marriage of the Sun and Moon: Dispatches from the Frontiers of Consciousness. Boston, Massachusetts: Houghton Mifflin. t. 77. ISBN 0-618-47905-8.
- ↑ Mehrotra RS, Aneja KR. (1990). An Introduction to Mycology. Columbia, Missouri: South Asia Books. t. 540. ISBN 81-224-0089-2.
- ↑ Stamets (1996), tud. 24.
- ↑ Marley G. (2010). Chanterelle Dreams, Amanita Nightmares: The Love, Lore, and Mystique of Mushrooms. White River Junction, Vermont: Chelsea Green Publishing. t. 178. ISBN 1-60358-214-2.