Pum Colofn Islam
Mae dilynwyr Islam i fod i ymarddel ac ymarfer Pum Colofn y Ffydd (Arabeg: Arkân al-Dîn), a adnebyddir hefyd fel y Farâ'idh, y pum egwyddor sanctaidd.
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Shahadah
golygu- Prif: Shahadah
Y Shahadah neu shahâda, neu Gyffesiad y Ffydd, a ymgorfforir yn y datganiad lâ ilâha illâ'llâh wa Muhammad rasulu Allah ("Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Negesydd Duw"). Mae rhywun o grefydd arall sy'n datgan hyn yn ddiffuant o flaen dau dyst Mwslim yn cael ei dderbyn fel Mwslim ei hun.
Salah
golygu- Prif: Salah
Y Salah neu salat (ll. salawât), sef y pum gweddi defodol a adroddir pum gwaith y dydd: ar doriad y wawr (subh), ar ganol dydd (dhuhr), ar ganol y prynhawn (asr), ar fachlud yr haul (maghrib) a dechrau'r nos (ishâ). Dechreuir pob gweddi gyda'r al-Fâtiha, a geir ar ddechrau'r Coran.
Zakat
golygu- Prif: Zakat
Y Zakât, sef rhoi elusen yn ôl gallu'r rhoddwr. Tua 5% o incwm y credadun a argymhellir yn y Coran. Yn aml mae'r mosg lleol yn trefnu hyn ac mae'r arian yn mynd at helpu'r tlodion, pobl gydag anabledd, gweddwon a'r amddifad.
Sawm
golygu- Prif: Sawm
Y Sawm neu siyâm, sef ymprydio yn ystod Ramadan, y mis sanctaidd. Yr adeg honno mae bwyta, yfed, smygu, gwisgo peraroglau a chael perthynas rhywiol yn waharddedig o doriad y wawr hyd at fachlud yr haul. Nid oes disgwyl i blant ifanc, yr henoed neu rywun sy'n dioddef afiechyd meddyliol ddilyn y rheolau hyn yn gaeth. Mae gwragedd beichiog, mamau sy'n rhoi llefrith i'w babanod, rhywun sy'n dioddef afiechyd a theithwyr yn gallu gohirio'r siyâm a'i chyflawni yn ddiweddarach. Nid ystyrir fod cymryd ffisig yn torri'r ympryd.
Hajj
golygu- Prif: Hajj
Mynd ar Hajj neu bererindod i Fecca. Mae Mwslim yn fod i wneud hynny o leiaf unwaith yn ystod ei fywyd, os ydyw hynny yn ei gallu heb achosi caledi i'w deulu.