Islam yng Nghymru

Gellir olrhain hanes Islam yng Nghymru yn ôl i'r Oesoedd Canol. Erbyn heddiw credir fod tua 50,000 o Fwslemiaid yn byw yng Nghymru, gyda'r rhan fwyaf yn y de-ddwyrain. Er nad yw hynny'n nifer fawr allan o'r cyfanswm o tua 1.57 biliwn o Fwslemiaid yn y byd, mae'n ffigwr sy'n uwch nag aelodaeth sawl enwad Cristnogol yn y wlad heddiw. Mae hyn yn 23% o boblogaeth y ddaear,[1][2][3][4] Islam ydy'r ail grwp mwyaf a chredir ei bod yn tyfu'n gynt ac yn gryfach nac unrhyw grefydd arall.[5][6][7]

Islam yng Nghymru
Enghraifft o'r canlynolIslam of an area Edit this on Wikidata
MathIslam in the United Kingdom, Crefydd yng Nghymru Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Cysylltiadau golygu

 
Bechgyn[dolen marw] Mwslemaidd yn gwrando ar y Qur'an yn cael ei ddarllen yn yr hen fosg yn Tre-biwt, Caerdydd, ym 1943.

Er nad yw'n gysylltiad uniongyrchol, mae'r ffaith fod darn arian ag arni dyfyniad o'r Coran mewn ysgrifen Arabeg a ddarganfuwyd ymhlith darnau arian o gyfnod Offa, brenin Mersia (8g), ar safle ger Clawdd Offa yn dangos fod cysylltiadau masnachol yn bod, trwy cyfryngwyr yn y canol, rhwng Prydain yr Oesoedd Canol â'r gwledydd Mwslemaidd, a hynny prin canrif ar ôl marwolaeth y Proffwyd Mohamed. Ceir digon o enghreifftiau o ddarnau arian ac aur o'r byd Islamaidd yng nghelciau y Llychlynwyr hefyd, a fu'n ymwelwyr cyson â Chymru o'r 9g ymlaen ac a chwareodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad yn yr Oesoedd Canol (yn enwedig Llychlynwyr Dulyn, cynghreiriad Gruffudd ap Cynan).

Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol daeth y Mwslemiaid i sylw ehangach yng Nghymru, ond mewn golau digon negyddol. Dyma gyfnod y Croesgadau yn y Dwyrain Canol ac aeth sawl Cymro allan i ymladd yn y Tir Sanctaidd. 'Y Saraseniaid' oedd yr enw am Fwslemiaid y Dwyrain Canol (a Mwslemiaid yn gyffredinol), ond roedd y gair bron iawn cyfystyr â 'pagan'. Ceir sawl cyfeiriad atyn nhw yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.

Cymunedau cyntaf golygu

Ond gyda'r cynnydd ym mhoblogaeth De Cymru gyda'r Chwyldro Diwylliannol, daeth mewnfudwyr o sawl gwlad i Gymru. Yn eu plith bu Mwslemiaid. Cofnodir i'r mosg cyntaf yng ngwledydd Prydain gael ei adeiladu yng Nghaerdydd ym 1860: rhaid felly fod Mwslemiaid yn byw yn y de-ddwyrain am beth amser cyn hynny. Yn eu plith bu nifer o bobl o Somalia, a ymsefydlasant yng Nghaerdydd a'r cylch yn bennaf, yn enwedig yn ardal Bae Caerdydd. Yn ogystal cyhoeddwyd y papur newydd Arabeg cyntaf yng ngwledydd Prydain, Al Salam, yn y ddinas honno.

Islam yng Nghymru heddiw golygu

Ceir tua deugain o fosgiau yng Nghymru heddiw. Ceir y rhan fwyaf yn y de-ddwyrain, e.e. Caerdydd (11), Casnewydd (7), ac Abertawe (4). Ceir mosgiau yn y gogledd hefyd, ym Mangor, Cyffordd Llandudno, a Wrecsam. Yn y de-orllewin ceir mosgiau yn Hwlffordd, Llanbedr Pont Steffan, a Llanelli, ond prin yw'r cymunedau Mwslemaidd yn y Canolbarth. Yn y brifddinas ceir tair siop lyfrau Islamig ac un ysgol gynradd i Fwslemiaid. Y grwp ymbarel ar gyfer cymunedau a mudiadau Islamaidd yn y wlad yw Cyngor Mwslemaidd Cymru, sy'n cynrychioli dros 50 o sefydliadau a mudiadau.[8] Yn 2006, agorwyd y Ganolfan ar Gyfer Astudio Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, y ganolfan academaidd gyntaf o'i math yng ngwledydd Prydain.[9]

Isel yw cynrychiolaeth Mwslemiaid ar gynghorau Cymru. Ceir tri chynghorydd Mwslim Plaid Cymru ac un Democrat Rhyddfrydol. Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, etholwyd Mohammad Asghar ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru dros Blaid Cymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. Miller (2009)
  2. "Islām". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 2010-08-25.
  3. "Nearly 1 in 4 people worldwide is Muslim, report says - CNN". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-15. Cyrchwyd 2013-05-13.
  4. "The World Factbook". CIA Factbook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-18. Cyrchwyd 2010-12-08.
  5. "AFP: Israel haven for new Bahai world order". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-09. Cyrchwyd 2007-06-09.
  6. Fastest Growing Religion; Christianity
  7. "The List: The World's Fastest-Growing Religions | Foreign Policy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-21. Cyrchwyd 2013-05-13.
  8. "Planetmagazine.com: erthygl ar wefan Planet". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-22. Cyrchwyd 2007-12-19.
  9. "Agor y Ganolfan ar Gyfer Astudio Islam yn y DU". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-14. Cyrchwyd 2007-12-19.

Dolenni allanol golygu