Ymgyrch y gymuned Fflemaidd yng Ngwlad Belg i ennill statws Parth Lefel Uchaf gwlad i Fflandrys yw puntVL.

Mae'r ymgyrch yn rhan o don o ymgyrchoedd tebyg gan genhedloedd a chymunedau ieithyddol lleiafrifol neu di-wladwriaeth, i ennill statws i'w hunain, yr ymgrych .cym ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gymraeg er enghraifft.

Cymer yr ymgyrch ysbrydoliaeth o lwyddiant ymgyrch puntCAT y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gatalanaidd ond hefyd yn fwy penodol o benderfyniadau gwrthgyferbyniol corff llywodraethol y we, ICANN, i ddynodi statws PLUg i nifer o diroedd lled-annibynnol nad ydynt yn aelodau llawn o'r Cenhedloedd Unedig e.e. Ynysoedd y Falkland (.fk), Ynysoedd y Ffaroe (.fo), Ynysoedd Aland (.ax), cyfandir Ewrop (.eu) ac yn y blaen.

Mae'r ymyrch yn rhan o symudiad ehangach yn Fflandrys dros ragor o rym i'r wlad a hefyd annibyniaeth i Fflandrys oddi wrth Gwlad Belg.

Dolen allanol golygu

(Iseldireg) PuntVL Archifwyd 2006-08-20 yn y Peiriant Wayback.