Ymgyrch a sefydlwyd ym mis Ionawr 2006 i ennill parth gwefannol i 'gymuned ieithyddol a diwylliannol y Gymraeg' yw .cym (hefyd dotcym). Bellach defnyddir dotCYMRU. Sefydlwyd cwmni cyfyngedig nid er elw i ymgyrchu a chyflwyno'r cais gan Siôn Jobbins a Maredudd ap Gwyndaf.

.cym
Enghraifft o'r canlynolÔl-ddodiad rhyngrwyd Edit this on Wikidata

Yn wreiddiol defnyddiwyd y talfyriad CYM am y Gymraeg gan mai dyma yw cydnabyddiaeth swyddogol ISO 639-2 alpha-3 yr iaith a chafwyd cefnogaeth Ieuan Wyn Jones AC Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth i'r cais yn 2008.

Cred yr ymgyrchwyr oedd y byddai ennill yr hawl i roi .cym ar ddiwedd cyfeiriad gwefan yn codi statws y Gymraeg ac yn arwain at ragor o ddefnydd o'r Gymraeg ac adnoddau Cymraeg ym maes technoleg gwybodaeth. Honnant y byddai .cym hefyd yn rhoi statws ac yn fynegiant gweledol i fodolaeth y Gymraeg a Chymreictod.

Ysbrydolwyd yr ymgyrch wedi llwyddiant ymgyrch puntCAT y Catalaniaid i ennill statws i'w cymuned ieithyddol a diwylliannol hwy (.cat). Bu cydweithio ymgyrch .cymru yn cydweithio agos gyda dotSCOT (Yr Alban), pikBZH (Llydaw), puntEUS Archifwyd 2014-08-17 yn y Peiriant Wayback. (Gwlad y Basg) a puntoGAL (Galisia). Roedd dotCYMRU (dotCYM gynt) yn un o sylfaenwyr partneriaeth o geisiadau dros barthau ieithyddol a diwylliannol gorllewin Ewropeaidd, ECLIC [1] Archifwyd 2011-08-02 yn y Peiriant Wayback. . Sefydlwyd ECLID er mwyn lobio dros y parthau hyn ac er mwyn ceisio prysuro'r broses o gynnig cais ar ran parthau ieithyddol a diwylliannol.

Oherwydd rheolau newydd gan y corff byd-eang dros barthau rhyngrwyd (ICANN) yn 2010 bu'n rhaid hepgor y dewis enw, CYM, oherwydd iddo gyd-daro â côd tair llythyren ar gyfer Ynysoedd y Cayman. Yn dilyn trafodaeth agored lle gwahoddwyd y cyhoedd i awgrymu eu hoff enw parth ar gyfer y gymuned Gymreig a Chymraeg, dewiswyd dotCYMRU ym mis Tachwedd 2010.

Mabwysiadwyd yr enw dotCYMRU [2]. Yn 2011 dyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru mai cwmni Nominet byddai'n cyflwyno'r cais. Er gwaethaf penderfyniad wreiddiol y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC, i gefnogi cais ar gyfer .wales yn unig, newidiodd ei feddwl a cyflwynwyd cais ar gyfer .cymru a .wales i ICANN yn 2013. Ddaeth y parth .cymru a .wales ar gael i'r cyhoedd yn 2015 ac fe'i gweinyddir gan Nominet o dan enw .cymru - Ein Cartref Ar-lein.

Gwaddol yn Llydaw golygu

Bu i'r un strwythu a ymgyrchodd yn llwyddiannus dros .bzh yn Llydaw gychwyn ymgyrch dros ennill emoji Baner Llydaw ar y cyfryngau cymdeithasol yn 2019 a 2020.

Dolen allanol golygu