Pura Wallia
Term a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol am yr ardal frodorol Gymreig cyn ac ar ôl goresgyniad 1282 oedd Pura Wallia (Lladin: "Cymru bur (neu ddiledryw)"; gweler hefyd Gwalia). Gelwid y rhan arall o Gymru, sef yr ardaloedd lled-ffiwdal ym meddiant Arglwyddi'r Mers, yn Marchie Wallie.
Roedd Pura Wallia yn cynnwys y tiriogaethau ym meddiant y tywysogion Cymreig a'u cynghreiriaid, sef yn fras Gwynedd, Powys (ond collwyd y rhannau dwyreiniol yn raddol i Arglwyddi'r Mers) a Deheubarth.
Amrywiai'r ffiniau answyddogol yn ôl troeon hanes y cyfnod, ond dyma, fwy neu lai, yr ardal fel yr oedd ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru gan y Saeson yn 1282-3:
- Ynys Môn
- Meirionnydd, Arfon, Arllechwedd, Llŷn ac Eifionydd
- Ceredigion
- rhan sylweddol o'r Berfeddwlad (Sir Ddinbych a rhanau o Sir y Fflint yn ddiweddarach)
- gogledd-orllewin Powys (Powys Fadog ac ardaloedd eraill (Maldwyn yn ddiweddarach)
- Canol a gogledd Sir Gaerfyrddin
Diflanodd y term yn swyddogol gyda phasio'r Deddfau Uno (1536-42), ond mae rhai hanweswyr a daearyddwyr yn defnyddio'r term heddiw am y rhannau o'r wlad sy'n bennaf Gymraeg ei hiaith ac sy'n dal i gyfateb yn fras i'r diriogaeth hanesyddol gyda'r ardaloedd mwy Saesneg a Seisnigaidd ar hyd y Gororau ac ar hyd arfordir y de i dde Sir Benfro yn cyfateb i'r Mers.