Arllechwedd
Cantref ac uned eglwysig yng ngogledd Cymru yw Arllechwedd. Roedd yn rhan o deyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol ac yn cynnwys tri chwmwd yn ei ffiniau, sef Arllechwedd Uchaf, Arllechwedd Isaf ac, yn ddiweddarach, Nant Conwy. Heddiw mae'n parhau fel uned eglwysig, sef Deoniaeth Arllechwedd, o fewn Esgobaeth Bangor.
Math | cantref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Teyrnas Gwynedd |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.006°N 3.844°W |
Tirwedd a hanes
golyguRoedd y cantref yn gorwedd i'r dwyrain o gantref Arfon rhwng Dyffryn Ogwen ac Afon Conwy. Mae hon yn ardal fynyddig a garw a ddominyddir gan gadwyn hir Y Carneddau, ond mae'n cynnwys dwy lain o dir isel ffrwythlon, y gyntaf yn wynebu Bae Conwy rhwng Bangor ac aber Afon Conwy yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf, a'r ail ar lan Afon Conwy yng nghwmwd Arllechwedd Isaf. I'r de-orllewin ceid cwmwd Nant Conwy gyda llys yn Nhrefriw. Lleolid prif lys y cantref yn Abergwyngregyn, efallai ar safle Garth Celyn yn y pentref hwnnw. Yn ddiweddarach tyfodd yn brif lys i Wynedd gyfan yn oes Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd.
Mae'r cantref yn cynnwys sawl eglwys hynafol ac yn dal i fod yn uned eglwysig heddiw. Yr unig sefydliad mynachaidd o bwys oedd Abaty Aberconwy, ar safle tref Conwy heddiw, lle claddwyd Llywelyn Fawr yn 1240.
Roedd y cantref yn rhan o diriogaeth yr Ordoficiaid yn Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Ychydig sy'n hysbys am ei hanes cynharaf, ond gan fod Cunedda wedi meddiannu Arfon a glannau Afon Menai pan ddaeth i Wynedd o'r Hen Ogledd mae'n amlwg fod Arllechwedd - Arllechwedd Uchaf o leiaf - yn rhan o'i dir ac felly'n gorwedd yng nghalon hanesyddol teyrnas Gwynedd.
Cysylltir yr arwr traddodiadol Menwaedd o Arllechwedd â'r cantref yn un o Drioedd Ynys Prydain.
Yn unol â Statud Rhuddlan (1284), fe'i unwyd ag Arfon a Llŷn i ffurfio'r sir newydd Sir Gaernarfon. Erbyn heddiw mae rhan healeth tiriogaeth yr hen gantref yn gorwedd yn Sir Conwy, ac eithrio darn yn y gogledd-orllewin rhwng Abergwyngregyn a Bangor sy'n gorwedd yng Ngwynedd.
Llun panoramig
golyguGweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Herbert L. North, The Old Churches of Arllechwedd (1906)
Dolenni allanol
golygu- Deoniaeth Arllechwedd Archifwyd 2011-06-07 yn y Peiriant Wayback: rhestr o'r plwyfi a'r eglwysi ar wefan Esgobaeth Bangor