Piwbis
(Ailgyfeiriad o Pwbis)
Mewn anatomeg ddynol, fe all y gair asgwrn y werddyr (hefyd pwbis) gyfeirio at un o bâr o esgyrn yn y pelfis neu at y cnawd sydd drosto (y mons pwbis). Gellir teimlo'r asgwrn hwn gan ei fod yn ymwthio allan megis chwydd yn y corff dynol, islaw'r gedor. Mae'r pwbis yn un o dri phrif asgwrn (iliwm, isgiwm a phwbis) yn asgwrn y glun. Mae'r pwbis chwith a dde yn cynnwys tair adran, sef y ramws uchaf, y ramws isaf a'r corff.


Mae esgyrn cluniau (chwith a dde) yn cysylltu ag e yn yr hyn a elwir yn ‘symffysis piwbig’.