Pyrrhus, brenin Epiros

Brenin Epiros, ac am gyfnod brenin Macedonia, oedd Pyrrhus, Groeg: Πύρρος (318 CC-272 CC).

Pyrrhus, brenin Epiros
Ganwyd318 CC Edit this on Wikidata
Epirus Edit this on Wikidata
Bu farw272 CC Edit this on Wikidata
Argos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEpirus Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddstrategos Edit this on Wikidata
TadAeacides of Epirus Edit this on Wikidata
MamPhthia of Epirus Edit this on Wikidata
PriodAntigone, Lanassa, Bircenna Edit this on Wikidata
PlantAlexandros II of Epirus, Olympias II of Epirus, Ptolemi, Helenus Edit this on Wikidata
LlinachAeacidae Edit this on Wikidata
Penddelw Pyrrhus, Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol Napoli

Roedd yn fab i Aeacides, brenin Epirus, o lwyth Groegaidd y Molossiaid. Diorseddwyd ei dad pan oedd Pyrrhus yn ddwy oed. Priododd Pyrrhus ag Antigone, llysferch Ptolemi I Soter, brenin yr Aifft, a chafodd gymorth Ptolemi i adennill gorsedd Epiros.

Yn 281 CC, roedd dinas Roegaidd Tarentum yn ne yr Eidal yn wynebu ymosodiad gan fyddin Gweriniaeth Rhufain, ac apeliasant ar Pyrrhus am gymorth. Cytunodd Pyrrhus, a daeth a byddin i'r Eidal. Gorchfygodd y Rhufeiniaid ym Mrwydr Heraclea yn 280 CC, ac eto ym Mrwydr Asculum yn 279 CC, ond er iddo fod yn fuddugol, dioddefodd ei fyddin golledion difrifol.

Yn 278 CC, aeth a'i fyddin i ynys Sicilia, lle bu'n ymladd yn erbyn y Carthaginiaid. Cipiodd gaer Eryx oddi wrthynt yn 277 CC. Erbyn iddo ddychwelyd o Sicilia i'r Eidal, roedd y Rhufeiniad wedi codi byddin fawr, a phenderfynodd Pyrrhus ddychwelyd i Epiros.

Yn 272 CC, ymosododd ar Sparta i geisio rhoi Cleonymus ar yr orsedd. Wrth ymosod ar Argos, lladdwyd ef pan daflodd hen wraig deilsen ato, gan ei daro'n anymwybodol a rhoi cyfle i un o filwyr Argos ei ladd. Dilynwyd ef ar orsedd Epiros gan ei fab, Alexander II.

Rhoddodd ei enw i'r ymadrodd "buddugoliaeth Byrrhig"; buddugoliaeth lle mae'r colledion mor uchel nes ei gwneud yn ddiwerth. Pan longyfarchwyd ef ar ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Asculum, dywedir iddo ateb "Byddai un fuddugoliaeth arall debyg yn fy nifetha" (Groeg: Ἂν ἔτι μίαν μάχην νικήσωμεν, ἀπολώλαμεν.)