Qaboos, Swltan Oman
Swltan Oman o 1970 i 2020 oedd Qaboos bin Said al Said (Arabeg: قابوس بن سعيد آلسعيد, IPA: [ˈqaːbuːs bɪn ˈsaʕiːd ʔaːl ˈsaʕiːd]; 18 Tachwedd 1940 – 10 Ionawr 2020). Roedd yn aelod o frenhinllin Al Bu Sa'id, ac yn gwasanaethu fel pennaeth y wladwriaeth a'r llywodraeth yn Oman.
Qaboos, Swltan Oman | |
---|---|
Ganwyd | 18 Tachwedd 1940 Salalah |
Bu farw | 10 Ionawr 2020 Seeb |
Dinasyddiaeth | Muscat and Oman, Oman |
Alma mater | |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Swltan Oman |
Tad | Said bin Taimur Al Said |
Mam | Mazoon bint Ahmad Al Mashani |
Priod | Nawwal bint Tariq Al Said |
Perthnasau | Haitham bin Tarik Al Said, Nawwal bint Tariq Al Said, Asa'ad bin Tariq Al Said, Shihab bin Tariq Al Said |
Llinach | House of Busaid |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Coler Urdd Isabella y Catholig, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Gwobr Urdd y Goron a'r Frenhiniaeth, Maleisia, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Order of the Nile, Cadwen Frenhinol Victoria, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Order of Oman, Nishan-e-Pakistan, Seren Gweriniaeth Indonesia, Order of Pahlavi, Order of the Chrysanthemum, Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of Independence, Darjah Utama Temasek, Urdd Umayyad, Order of Independence, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Bailiff Grand Cross of the Order of Saint John, Knight of the Order of Saint John, Order of Al-Said, Urdd y Baddon, Urdd San Fihangel a San Siôr, Urdd Frenhinol Fictoraidd, Addurn er Anrhydedd am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Marchog Fawr Groes yn Urdd Llew yr Iseldiroedd, Urdd Isabel la Católica, Order of Al-Khalifa, Order of Good Hope, Urdd Teilyngdod, Dostyk Order of grade I |
llofnod | |
Ganwyd yn Salalah, Dhofar, yn Swltanaeth Muscat ac Oman, yn unig fab i'r Swltan Said bin Taimur a'i wraig Mazoon al-Mashani. Aeth i Loegr am ei addysg, mewn ysgol breifat yn Bury St Edmunds, Suffolk, ac yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Gwasanaethodd am un flwyddyn yn swyddog y Cameroniaid (Reifflwyr Albanaidd) yn y Fyddin Brydeinig. Dychwelodd i'w famwlad yn 1965, a chafodd ei gadw'n gaeth gan ei dad am chwe mlynedd. Cipiodd Qaboos rym ar 23 Gorffennaf 1970 mewn coup d'état, gyda chefnogaeth y Deyrnas Unedig. Cafodd y coup ei gynllunio gan MI6, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a'r Swyddfa Dramor, a'i ganiatáu gan y Prif Weinidog Harold Wilson.[1]
Cychwynnodd Qaboos ar ymgyrch i foderneiddio'i wlad, gan adeiladu ffyrdd, ysbytai, ysgolion, porthladdoedd, a rhwydweithiau cyfathrebu.[2] Bu farw yn 79 oed wedi iddo ddioddef o ganser.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ian Cobain, The History Thieves (Llundain: Portobello Books, 2016). t. 87.
- ↑ (Saesneg) Qaboos bin Said. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2019.
- ↑ (Saesneg) "Sultan Qaboos of Oman dies aged 79", BBC (11 Ionawr 2020). Adalwyd ar 11 Ionawr 2020.