Qin Shi Huang

(Ailgyfeiriad o Qin Shihuang)

Qin Shi Huang (秦始皇, Qín Shǐhuáng, 259 CC10 Medi 210 CC oedd ymerawdwr cyntaf Tsieina a sylfaenydd Brenhinllin Qin. Adnabyddir ef fel yr Ymerawdwr Cyntaf (始皇帝, Shǐ Huáng Dì).

Qin Shi Huang
Ganwyd259 CC Edit this on Wikidata
Handan Edit this on Wikidata
Bu farw210 CC Edit this on Wikidata
Guangzong County Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Qin, Qin Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ymerawdwr, llywodraethwr, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Tsieina, brenin Tsieineaidd Edit this on Wikidata
OlynyddQin Er Shi Edit this on Wikidata
TadKing Zhuangxiang of Qin Edit this on Wikidata
MamQueen Dowager Zhao Edit this on Wikidata
PlantPrince Jianglü, Prince Gao, Ziying, Qin Er Shi, Fusu Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllin Qin Edit this on Wikidata
Qin Shi Huang

Ganed ef yn Handan, yng ngwladwriaeth Zhao. Daeth yn frenin gwladwriaeth Qin o 246 CC i 221 CC, ac yn ymerawdwr Tsieina unedig o 221 CC hyd ei farwolaeth.

Wedi iddo uno Tsieina, dechreuodd ef a'i brif gynghorydd, Li Si, ar gyfres o ddiwygiadau pellgyrhaeddol. Ef a adeiladodd y fersiwn gyntaf o Fur Mawr Tsieina, ac mae ei fawsolewm ger Xi'an sy'n cael ei gwarchod gan y Fyddin Derracotta yn fyd-enwog. Adeiladodd rwydwaith o ffyrdd trwy'r wlad. Fodd bynnag, mae'n ffigwr dadleuol, oherwydd gwnaed hyn ar gost o filoedd o fywydau. Gwnaeth athroniaeth Conffiwsiaeth yn anghyfreithlon, a llosgodd lyfrau a chladdu ysgolheigion yn fyw.