Mur Mawr Tsieina
Hen amddiffynfa Tsieineaidd yw Mur Mawr Tsieina (長城, 长城, "Dinas Hir"). Ystyrir ei fod yn un o ryfeddodau'r byd. Os cynhwysir y muriau atodol sydd hefyd yn rhan ohono, mae'r Mur Mawr yn ymestyn am 50,000 km. Mae'n ymestyn o'r ffin bresennol rhwng Tsieina a Gogledd Corea i fynyddoedd Qian Shang yng ngorllewin Tsieina.
Math | atyniad twristaidd, fortified line |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Hebei, Beijing, Tianjin, Shanxi, Mongolia Fewnol, Shaanxi, Ningxia, Gansu, Xinjiang, Shandong, Henan, Hubei, Hunan, Sichuan, Qinghai |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Cyfesurynnau | 40.42°N 116.08°E |
Hyd | 21,195 cilometr |
Deunydd | calchfaen |
Dywedir yn gyffredinol bod y mur cyntaf wedi ei adeiladu yn y 3edd ganrif C.C. yn ystod teyrnasiad Qin Shi Huang (Ying Zheng), Ymerodwr Cyntaf Brenhinllin Qin, ond mewn gwirionedd codwyd rhan gyntaf y Mur Mawr mor gynnar â'r 7fed ganrif C.C.. Hyd at yr 17g O.C. roedd ymerodrau Tsieina yn dal i adnewyddu ac ehangu'r Mur.
Roedd yn fwy nac amddiffynfa yn unig. Bu iddo rôl pwysig yn y rhwydwaith cludiant dros dir Canolbarth Asia i'r Dwyrain Canol ac Ewrop a elwir Llwybr y Sidan ac mewn datblygiadau diwylliannol ac economaidd o boptu iddo yn ogystal.
Mae'r rhannau mwyaf enwog heddiw i'w gweld yn Shanhaiguan, Gubeikou, Juyongguan, Badaling, Ynamenguan, Ningwuguan, Jiayuguan a Lintao.
Llyfryddiaeth
golygu- Luo Zhewen a Zhao Luo, The Great Wall of China in History and Legend (Beijing, 1986). ISBN 0835114546