Quim Torra
Gwleidydd Catalan yw Joaquim Torra i Pla (Catalan: Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:IPA/data' not found. (gwrando); ganwyd 28 Rhagfyr 1962), a adnabyddir hefyd fel Quim Torra; yn 2018 fe'i penodwyd i olynu Carles Puigdemont yn Arlywydd Llywodraeth Catalwnia (Generalitat de Catalunya).
Quim Torra | |
---|---|
Ganwyd | Joaquim Torra i Pla 28 Rhagfyr 1962 Blanes |
Man preswyl | Barcelona, Avinguda de la Riera de Cassoles |
Dinasyddiaeth | Catalwnia Catalan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cyfreithiwr, golygydd, gwleidydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, gweithredydd gwleidyddol |
Swydd | Llywydd Òmnium Cultural, Aelod o Senedd Catalwnia, President of Sobirania i Justícia, Arlywyddion Catalwnia, Director of Contemporary issues research center |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Periodisme? Permetin! La vida i els articles d'Eugeni Xammar, Viatge involuntari a la Catalunya impossible, Muriel Casals i la revolució dels somriures |
Arddull | traethawd |
Prif ddylanwad | Manuel Carrasco Formiguera |
Plaid Wleidyddol | Reagrupament, Undeb Democrataidd Catalwnia |
Tad | Quim Torra Fàbregas |
Priod | Carola Miró |
Gwobr/au | Gwobr Premi Carles Rahola d'assaig |
Gwefan | https://www.presidenttorra.cat/ |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Blanes, Torra, Catalwnia a graddiodd ym Mhrifysgol BArcelona cyn cychwyn gweithio ym myd y gyfraith. Bu'n gyfreithiwr i gwmni yswiriant rhyngwladol am ugain mlynedd cyn iddo gychwyn ei gwmni cyhoeddi ei hun. Yn ddiweddarach fe'i penodwyd i nifer o brif swyddi ar Gybngor Dinas Barcelona a Generalitat de Catalunya.
Bu Quim Torra yn flaenllaw yn yr ymgyrch dros annibyniaeth i Galatlwnia, gan gynnwys y mudiad Òmnium Cultural a Chynulliad Cenedlaethol Catalwnia (yr Assemblea Nacional Catalana). Fe'i penodwyd i Lywodraeth Catalwnia yn 2017 fel aelod annibynnol o Junts per Catalunya. Ym Mai 2018 fe'i penodwyd yr 131ydd Arlywydd, yn dilyn gwaharddiadau gan Lys ym Madrid yn erbyn tri ymgeisydd arall.[1] Nid yw'n aelod o unrhyw blaid wleidyddol ac mae'n anghytuno gyda rhai o bolisiau'r Partit Demòcrata Europeu Català (PDeCAT), sef y prif blaid uy glymblaid sydd dros annibyniaeth, sef y Junts per Catalunya (JuntsxCat). Deellir ei fod yn agos iawn at y blaid asgell-chwith, sydd hefyd o blaid annibyniaeth sef y CUP – Plaid Wleidyddol Gatalanaidd neu'r Candidatura d'Unitat Popular (CUP) sydd ddim yn aelod o glymblaid y JuntsxCat.[2]
Bywyd personol
golyguMae Quim Torra yn briod i athrawes, Carola Miró ac mae ganddyn nhw dri o blant: dwy ferch a bachgen.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Quim Torra pren possessió com a 131è president de la Generalitat". Generalitat de Catalunya (yn Catalan). Llywodraeth Catalwnia. 17 Mai 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-22. Cyrchwyd 2018-06-05.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Lasalas, Marta (10 Mai 2018). "Quim Torra to be 131st president of Catalonia". El Nacional. Barcelona. Cyrchwyd 11 Mai 2018.
- ↑ Aragay, Ignasi (10 Mai 2018). "La Catalunya impossible de Quim Torra". Ara (yn Catalan). Barcelona, Catalwnia. Cyrchwyd 14 Mai 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)