Quintus Sertorius
Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd Quintus Sertorius (tua 123 CC - 72 CC).
Quintus Sertorius | |
---|---|
Ganwyd | c. 123 CC Norcia |
Bu farw | Unknown Huesca, Osca |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor |
Plaid Wleidyddol | populares |
Tad | Unknown |
Mam | Unknown |
Gwobr/au | Grass Crown |
Ganed ef yn Nursia, ac wedi ennill slyw yn Rhufain fel areithydd a chyfreithiwr, dechreuodd yrfa filwrol. Ymladdodd ym Mrwydr Arausio dan Quintus Servilius Caepio, yna gwasanaethodd am rai blynyddoedd dan Gaius Marius, gan ymladd ym Mrwydr Aquae Sextiae pan orchfygodd Marius fyddin enfawr y Teutones. Bu'n gwasanaethu yn Sbaen fel tribwn milwrol, yna yn Gallia Cisalpina fel quaestor. Yn y cyfnod yma cafodd anaf a'i gwnaeth yn ddall yn un llygad.
Wedi dychwelyd i Rufain, ceisiodd ddod yn dribwn, ond gwrthwynebwyd hyn gan Lucius Cornelius Sulla. Wedi i Sulla orfodi Marius i ffoi o Rufain, ac yna gadael ei hun i ymladd yn erbyn Mithridates VI, brenin Pontus, bu ymryson yn Rhufain rhwng yr Optimates, dan y conswl Gnaeus Octavius, a'r Populares, dan y conswl Lucius Cornelius Cinna. Cefnogodd Sertorius Cinna a'r Populares, ac er nad oedd yn edmygydd mawr o Marius, cytunodd iddo gael dychwelyd i Rufain.
Dychwelodd Sulla o'r dwyrain yn 83 CC, a bu raid i Sertorius ffoi i Sbaen. Bu'n ymladd yn erbyn cefnogwyr Sulla yn Sbaen a Gogledd Affrica, lle cipiodd ddinas Tingis (Tangier heddiw). Gyrrodd gadfridog Sulla, Q. Caecilius Metellus Pius, allan o Lusitania. Roedd Sertorius yn gadfridog galluog dros ben, a chanddo ddylanwad mawr dros frodorion Sbaen. Rhoddodd un ohonynt ewig gwyn iddo, a dywedid fod yr ewig yma yn trosglwyddo iddo negeseuon gan y dduwies Diana.
Yn 77 CC daeth Marcus Perperna Vento o Rufain gyda byddin i'w gynorthwyo, a'r un flwyddyn daeth Gnaeus Pompeius Magnus o Rufain i gynorthwyo Caecilius Metellus. Enillodd Sertorius nifer o fuddugoliathau dros Metellus a Pompeius. Gwnaeth gytundeb a môrladron Cilicia a dechreuodd drafodaethau gyda Mithridates VI, brenin Pontus. Fodd bynnag llofruddiwyd ef mewn gwledd gan Perpenna Vento yn 72 CC. Hebddo ef, gorchfygwyd Perpenna gan Pompeius a rhoddwyd diwedd ar y rhyfel.
Llyfryddiaeth
golygu- Adrian Goldsworthy In the name of Rome: the men who won the Roman Empire (Phoenix, 2003) ISBN 0-75381-789-6