Diana (mytholeg)

(Ailgyfeiriad o Diana (duwies))

Ym mytholeg Rhufain, roedd Diana yn dduwies hela, y lleuad a gwyryfdod. Mae'n cyfateb i Artemis ym mytholeg Roeg, ond roedd Diana o darddiad Eidalaidd.

Diana
Enghraifft o'r canlynolduwdod Rhufeinig, epithet Edit this on Wikidata
Enw brodorolDiana Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diana Versailles

Dywedir i Artemis/Diana gael ei geni gyda'i hefaill Apollo ar ynys Delos, yn ferch i Zeus/Iau a Leto/Latona. Cysylltir hi ag anifeiliad gwyllt, ac roedd llwyni derw yn gysegredig iddi. Roedd hefyd yn dduweies ffrwythlondeb.

Fel Artemis, cysylltid Diana yn arbennig a dinas Effesus, lle roedd teml fawr iddi, Teml Artemis. Cofnodir i'r apostol Paul, ar ymweliad ag Ephesus i genhadu, greu terfysg ymysg gofaint arian oedd yn gwneud bywoliaeth o wneud a gwerthu cerfluniau o'r dduwies. Cofnodir i'r terfysgwyr weiddi "Mawr yw Diana yr Effesiaid!".

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato