Quintus Veranius Nepos
Cadfridog a llywodraethwr Rhufeinig oedd Quintus Veranius Nepos (bu farw 57).
Quintus Veranius Nepos | |
---|---|
Ganwyd | 12 Forum Novum |
Bu farw | 58 |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Quintus Veranius |
Priod | Octavia Sergia Plautilla |
Plant | Verania Gemina, Verania Octavilla |
Cofnodir iddo wasanaeth fel tribwn y lleng Legio IV Scythica ac fel quaestor dan yr ymerawdwr Tiberius. Yn 43, pan ffurfiodd yr ymerawdwr Claudius dalaith newydd Lycia-Pamphylia, penododd Veranius yn lywodraethwr. Bu yno hyd 48, gan orchfygu gwrthryfel Cylicia Tracheotide. Bu'n gonswl yn 49.
Yn 57 penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain, yn olynydd i Aulus Didius Gallus. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru, ond bu farw o fewn y flwyddyn. Olynwyd ef gan Gaius Suetonius Paulinus.
Cyflwynodd yr athronydd Groegaidd Onasander ei lyfr ar dactegau milwrol, Strategikos, i Veranius.