Rómulo Macció
Roedd Rómulo Macció (29 Ebrill 1931 - 11 Mawrth 2016) yn arlunydd o'r Ariannin a oedd yn gysylltiedig â'r mudiad celf avant-garde yn ei wlad enedigol a datblygodd yn ystod y 1960au.[1]
Rómulo Macció | |
---|---|
Ffugenw | Maccio, Romulo |
Ganwyd | 1931 Buenos Aires |
Bu farw | 11 Mawrth 2016 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon |
Cefndir
golyguYn enedigol o Buenos Aires, ddatblygodd Macció ddiddordeb cynnar mewn darlunio, roedd yn hunan addysgedig a chafodd ei logi fel dylunydd graffeg yn bedair ar ddeg oed. Erbyn canol ei hugeiniau roedd wedi ennill rhywfaint o enwogrwydd, a chafodd yr arddangosfa gyntaf o'i waith ei gynnal yn Galeria Gatea, Buenos Aires ym 1956. Daeth celf haniaethol weledol hyf Macció ag ef i sylw pobl megis y pensaer Clorindo Testa a'r cyflunydd Rogelio Polesello a wahoddodd ef i ymuno â'r Grŵp Boa, un o nifer o gylchoedd deallusol a oedd dylanwadu ar fywyd diwylliannol yr Ariannin ar y pryd. Fel aelod o grŵp o saith arlunydd haniaethol a oedd yn cynnwys Jorge de la Vega, Ernesto Deirangly, Enrique Sobisch a Luis Felipe Noé fe ddaeth Macció yn un o arloeswr y mudiad neo-ffigurol a oedd yn ysgubo celfyddyd America Ladin y 1960au.[2]
Roedd Macció yn disgrifio ei hun fel rebel yn erbyn estheteg mewn celf, a chondemniodd llawer o'r portreadau a thirluniau parchus a oedd yn amlwg yng nghelf ei gyfnod fel dim namyn Siocled Pinc.
Roedd llawer o weithiau Macció yn portreadu artaith gan gynnwys darluniau o bobl oedd yn aml y meirw neu'n marw ac yn cael eu gosod yn erbyn cefndir a oedd yn awgrymu llygredd trefol a dirywiad. Bu ei waith mwy diweddar yn tueddu i ganolbwyntio ar broblemau cymdeithasol.[3]
Mae gwaith Macció yn parhau i gael ei arddangos yn amlwg yn orielau'r Ariannin, yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae nifer o'i weithiau yng nghasgliadau parhaol Amgueddfa Genedlaethol y Celfyddydau Cain yn Buenos Aires, Amgueddfa Gelf Blanton ac Amgueddfa a Gardd Cerfluniau Hirshhorn yn Washington DC . Cyhoeddwyd wyth llyfr o werthfawrogiad o'i waith ers 1969.
Gwobrau (anghyflawn)
golygu- 1959 Prix De Ridder
- 1962 Gwobr Ryngwladol Sefydliad Di Tella
Derbyniodd gwobr Konex am y celfyddydau gweledol ym 1982, 1992 a 2002 sef gwobr a gyflwynir i'r pum gwaith celf gorau o'r Ariannin a grëwyd yn ystod y ddegawd flaenorol.
Arddangosfeydd (anghyflawn)
golygu- 1963 Arddangosfa Dwyflynyddol Sao Paulo.
- 1967 Sefydliad Di Tella, Buenos Aires
- 1968 Arddangosfa Dwyflynyddol Di Venezia, Pafiliwn yr Ariannin
- 1969 Canolfan Cysylltiadau Rhwng Americanaidd, Efrog Newydd
- 1976 Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Dinas Mecsico
- 1977 Amgueddfa Celf Fodern, Paris
- 1985 Arddangosfa Dwyflynyddol Sao Paulo
- 1987 Neuaddau Cenedlaethol, Buenos Aires
- 1988 Arddangosfa Dwyflynyddol Di Venezia
- 1990 Neuadd Saint Jean, Hotel de Ville, Paris
- 1991 Castello Sforzesco, -Sala Viscontea, Milan
- 1991 Sefydliad America Ladin, Rhufain
- 1996 Museo Cuevas, Dinas Mecsico
- 1997 Sefydliad PROA, Buenos Aires
- 1999 Canolfan Celfyddydol Recoleta, Buenos Aires.
Marwolaeth
golyguBu farw Macció ar 11 Mawrth 2016 yn 84 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cementerio de la Recoleta, Buenos Aires.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Murió Rómulo Macciò Archifwyd 2016-04-15 yn y Peiriant Wayback adalwyd 17 Awst 2016
- ↑ RÓMULO MACCIÓ DE LA TRADICIÓN A LO CONTEMPORÁNEO EN LA FUNDACIÓN PROA Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 17 Awst 2016
- ↑ Esencialmente, pintor Archifwyd 2015-11-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 17 Awst 2016
- ↑ Falleció el pintor Rómulo Macció, referente del movimiento Neo Figuración adalwyd 17 Awst 2016