Raül Romeva i Rueda
Gwleidydd o dras Catalwnaidd yw Raül Romeva i Rueda (ganwyd 12 Mawrth 1971 ym Madrid) sy'n gyn-wleidydd y blaid werdd Iniciativa per Catalunya Verds yn Senedd Ewrop. Roedd ar brif bwyllgor Materion Tramor Ewrop yn ogystal â bod ar Bwyllgor Hawliau Merched a Chydraddoldeb Rhyw. Yn Etholiad Cyffredinol Catalwnia, 2015 bydd ar frig rhestr y cynrychiolwyr sydd dros annibyniaeth.
Raül Romeva i Rueda | |
---|---|
Ganwyd | Raül Romeva i Rueda 12 Mawrth 1971 Madrid |
Man preswyl | Sant Cugat del Vallès |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, awdur ysgrifau, analyst, casteller |
Swydd | Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Senedd Catalwnia, Minister for Foreign Affairs, Institutional Relations and Transparency of the Government of Catalonia, Aelod o Senedd Catalwnia, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Senedd Sbaen, cadeirydd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Initiative for Catalonia Greens |
Priod | Diana Riba Giner |
Gwefan | http://www.raulromeva.cat |
Plentyndod ac addysg
golyguFe'i ganed ym Madrid a'i fagu yng Nghatalwnia. Graddiodd yn 1989 mewn economeg ym Mhrifysgol Annibynnol Catalwnia (Universitat Autònoma de Barcelona).[1] Yn 2002 derbyniodd Ddoethuriaeth (PhD) mewn Cydberthynas Gwledydd (international relations) yn y brifysgol honno.[2]
Y gwleidydd
golyguRhwng Hydref 1995 ac Awst 1996 bu'n Brif Cynorthwyydd Cynrychiolydd UNESCO yn Bosnia-Hertsegofina, ble roedd yn gyfrifol am raglen addysg ac am hyrwyddo UNESCO a'i chynllun dros ddiwylliant heddwch mewn ysgolion. Bu hefyd yn arsylwi etholiadau'r wlad yn 1996 ac yn 1997.[3]
Bu'n ddirprwy Athro prifysgol yn UAB rhwng (1994-1995 ac yna yn 1996-2002) a chydlynydd yr ymgyrch i ddiarfogi ac atal ymosodiadau milwrol ar ran Oxfam (1998-1999). Mae'n awdur toreithiog i'r wasg ac mae'n cyfrannu'n helaeth i raglenni radio a theledu.
Ymaelododd gyda phlaid Iniciativa Catalunya Verds (neu'r 'ICV') yn Caldes de Montbui yn 1989. Safodd ar eu rhan yn etholiad Senedd Ewrop yn 1994 ac yn 1999 ac etholaeth Sbaen yn 2004, a bu'n llwyddiannus, gan ddal ei sedd hyd at 2014.[4]
Yn ystod y cyfnod hwn ystyrir ef fel yr ASE prysuraf, gan ofyn mwy o gwestiynau a chynnig mwy o gynigion na'r un aelod arall: 1,600 o weithiau.[5]
-
Barcelona, 2009
-
Ebrill 2011
-
Annerch pobl ifanc yn 2013
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Picazo, Sergi. "Algú pensa que Londres o Berlín ens ajudaran?". El Punt Avui. El Punt Avui. Cyrchwyd August 29, 2013.
- ↑ Bella, Emili. "El candidat europeista". El Punt Avui. Cyrchwyd Mai 31, 2009.
- ↑ "Raül Romeva i Rueda". Enciclopèdia.cat. Grup Enciclpèdia Catalana.
- ↑ "Raül Romeva, un home fet a Europa i amb una trajectòria dedicada a la pau". Diari ARA.
- ↑ "Raül Romeva, former Eco-Socialist MEP, will top the unitary pro-independence electoral list". Catalan News Agency. 14 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.