Artur Mas i Gavarró

Gwleidydd yw Artur Mas i Gavarró (ganwyd 31 Ionawr 1956 ym Marcelona, Catalwnia) oedd yn Arlywydd Catalunya rhwng 27 Rhagfyr 2010 a 9 Ionawr 2015. Mas oedd y 129fed Arlywydd y Generalitat; ef hefyd yw arweinydd y blaid ryddfrydol, genedlaetholgar 'y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona' a chadeirydd y glymblaid Convergència i Unió.[1] Fe'i olynwyd fel Arlywydd gan Carles Puigdemont.[2]

Artur Mas i Gavarró
Arlywydd Catalunya
Arlywydd ''Generalitat'' Catalwnia
Yn ei swydd
27 Rhagfyr 2010 – 9 Ionawr 2016
Vice PresidentJoana Ortega i Alemany
Rhagflaenwyd ganJosé Montilla i Aguilera
Dilynwyd ganCarles Puigdemont, Maer Girona
Rhestr o Arlywyddion Catalwnia
Yn ei swydd
19 Ionawr 2001 – 20 Rhagfyr 2003
ArlywyddJordi Pujol i Soley
Rhagflaenwyd gandim
Dilynwyd ganJosep-Lluís Carod-Rovira
Arweinydd yr Wrthblaid yn Llywodraeth Catalwnia
Yn ei swydd
27 Mai 2004 – 23 Rhagfyr 2010
Rhagflaenwyd ganPasqual Maragall i Mira
(Daeth y swydd i ben rhwng 17 Rhagfyr 2003 a 27 Mai 2004)
Dilynwyd ganJoaquim Nadal i Farreras
Y Gweinidog dros Economi ac Arian y Generalitat de Catalunya
Yn ei swydd
30 Gorffennaf 1997 – 17 Ionawr 2001
ArlywyddJordi Pujol i Soley
Rhagflaenwyd ganMacià Alavedra i Moner
Dilynwyd ganFrancesc Homs i Ferret
Y Gweinidog dros Tref a Gwlad
Yn ei swydd
15 Mehefin 1995 – 30 Gorffennaf 1997
ArlywyddJordi Pujol i Soley
Rhagflaenwyd ganJaume Roma i Rodríguez
Dilynwyd ganPere Macias
Manylion personol
GanwydArtur Mas i Gavarró
31 Ionawr 1956
Barcelona, Catalonia, Spain
Plaid wleidyddolConvergència i Unió (Y Blaid Ddemocrataidd dros Gydgyfeirio Barcelona
Convergència Democràtica de Catalunya (CDC))
PriodHelena Rakosnik
PlantPatricia
Albert
Artur
Alma materPrifysgol Barcelona
GalwedigaethEconomegydd
Llofnod

Economegydd yw Mas a raddiodd ym Mhrifysgol Barcelona; mae'n rhugl mewn Catalaneg, Sbaeneg, Ffrangeg a Saesneg. Ystyrir ei eidioleg wleidyddol yn rhyddfrydol, o safbwynt economeg ac mae'n Ewropead cryf iawn; mae hefyd yn credu'n gryf yn annibyniaeth ei wlad. Mae gweddill ei agenda'n un eithaf cymedrol e.e. hawliau hoywon ac erthylu.[3]

Yn 2010, am y tro cyntaf, cyhoeddodd y byddai'n pleidleisio mewn unrhyw refferendwm dros annibyniaeth a daeth y thema hon o sofraniaeth yn flaenllaw iawn yn ei waith.[4][5]

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Mas ym Marcelona yn un o bedwar plentyn: dau fachgen a dwy ferch; roedd ei rieni o deuluoedd diwydiannol ariannog, gyda theulu ei fam yn y byd tecstiliau'n hanu o Sabadell a'i dad mewn diwydiannau metaleg o Poblenou. Astudiodd yn ysgol uwchradd Lycée Français de Barcelone ym Marcelona, gyda'r Ffrangeg yn gyfrwng y dysgu ac yn yr 'Ysgol Ewropeaidd' leol. Yn 1982, wedi cyfnod ym Mhrifysgol y brifddinas yn astudio economeg a busnes, priododd Helena Rakòsnik ac mae ganddynt dri o blant: Patricia, Albert ac Arthur.[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Barcelona reporter, “ARTUR MAS, Party Leader: Convergència i Unió Archifwyd 2010-12-23 yn y Peiriant Wayback
  2. golwg360.cymru/; adalwyd 10 Ionawr 2016
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-05. Cyrchwyd 2014-11-09.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-29. Cyrchwyd 2014-11-09.
  5. New York Times, Hydref 5, 2012, Catalan Leader Boldly Grasps a Separatist Lever
  6. "Artur Mas". CiU.cat (yn Catalaneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-01. Cyrchwyd 2014-11-09.

Dolennau allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: