Rachael Garside
Darlledwraig a newyddiadurwraig yw Rachael Garside (ganwyd Hydref 1970),[1] sydd fwyaf enwog am gyflwyno bwletinau newyddion Wales Today ar BBC Cymru, a'r rhaglen Ffermio ar S4C tan 2004. Ar hyn o bryd Rachael yw cyflwynydd y rhaglen amaethyddol Country Focus sydd i'w chlywed bob bore Sul am 7am ar BBC Radio Wales. Mae'n byw yn nhref Caerfyrddin, gyda thri o blant.
Rachael Garside | |
---|---|
Ganwyd | 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd Rachael yng Nghaerdydd, ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Bryntâf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf cyn mynd yn ei blaen i Brifysgol Reading.
Wedi graddio yno, enillodd ysgoloriaeth i astudio yng Nghanolfan Astudiaethau Newyddiadurol yng Nghaerdydd.
Gyrfa
golyguDechreuodd weithio yn ystafell newyddion BBC Cymru ym 1993, gan ddod yn ohebydd gyflwynydd ar raglen Wales Today.
Ymunodd â chriw Ffermio ym 1997, cyn gadael yn 2004 er mwyn dechrau teulu.
Ers hynny, mae wedi parhau i gyflwyno a chynhyrchu rhaglenni radio ar gyfer BBC Radio Wales cynnwys Country Focus a Good Morning Wales. Mae Rachael hefyd yn cyflwyno'r rhaglenni Saesneg o Sioe Llanelwedd ar gyfer BBC 2 Cymru bob blwyddyn.
Am un noson yn unig ar Chwefror 14, 2011, ymunodd Rachael â thîm y rhaglen Ffermio eto wrth iddi gyflwyno rhaglen arbennig yn edrych yn ôl ar ddeng mlynedd ers helbul Clwy'r Traed a'r Genau, gan ailymweld â rhai o'r ffermwyr a busnesau a gafodd eu taro'n echrydus yn sgil y clwyf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Cofnod Ty'r Cwmniau, Pedol Media. Adalwyd ar 17 Mehefin 2016.