Rae Jenkins

fiolinydd ac arweinydd cerddorfa

Arweinydd cerddorfeydd o Gymru oedd Rae Jenkins MBE FRAM, ganwyd Henry Horatio Jenkins[1] (19 Ebrill 190329 Mawrth 1985).[2] Ef oedd prif arweinydd Cerddorfa Gymreig y BBC o 1950 i 1965.[3]

Rae Jenkins
Ganwyd19 Ebrill 1903 Edit this on Wikidata
Rhydaman Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mawrth 1985 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharweinydd, fiolinydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Roedd yn frodor o Rydaman ac yn fab i löwr. Ac yntau'n bedwar oed cafodd ei ffidil cyntaf gan ei dadcu, ac yn unarddeg oed roedd yn brif feiolinydd yng ngherddorfa'r theatr lleol. Pum mlynedd wedi hynny gadawodd Sir Gâr i fynd i astudio yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol yn Llundain. Dechreuodd ei yrfa ym myd darlledu ym 1930. Ym 1942 daeth yn arweinydd i'r BBC Midland Light Orchestra ac ym 1946 symudodd i'r BBC Variety Orchestra. Roedd yn arbenigwr yng ngherddoriaeth y sipsiwn.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Thomas, Keith. Beaufort Male Voice Choir. Adalwyd ar 18 Awst 2014.
  2.  Hervert, Trevor. Jenkins, Henry Horatio ('Rae'). Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 3 Chwefror 2016.
  3. (Saesneg) BBC National Orchestra of Wales. Rate Your Music. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2014.
  4. (Saesneg) Pit Boy at the BBC. The Children's Magazine (20 Ebrill 1946). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2014.