Gweinidog Bedyddwyr o'r Unol Daleithiau ac un o arweinwyr y mudiad dros hawliau sifil i'r Americanwyr Affricanaidd oedd Ralph David Abernathy (11 Mawrth 192617 Ebrill 1990) a fu'n brif gynorthwywr Martin Luther King.

Ralph Abernathy
Ralph Abernathy ym Mehefin 1968
Ganwyd11 Mawrth 1926 Edit this on Wikidata
Linden Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1990 Edit this on Wikidata
Atlanta Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Talaith Alabama
  • Clark Atlanta University Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd hawliau sifil, gweinidog yr Efengyl, gwleidydd, diwinydd, amddiffynnwr hawliau dynol Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodJuanita Abernathy Edit this on Wikidata
PlantDonzaleigh Abernathy, Ralph David Abernathy III Edit this on Wikidata

Ganed yn Linden, Alabama, a ffermwr oedd ei dad. Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Eglwys y Bedyddwyr ym 1948. Derbyniodd ei radd baglor mewn mathemateg o Brifysgol Daleithiol Alabama ym 1950, ac enillodd radd meistr mewn cymdeithaseg o Brifysgol Atlanta ym 1951.[1] Y flwyddyn honno, symudodd i Montgomery, Alabama, i fugeilio Eglwys Gyntaf y Bedyddwyr, ac yno cyfarfu â Martin Luther King a benodwyd yn weinidog ar eglwys arall yn y ddinas ychydig o flynyddoedd yn hwyrach. Ym 1955–56 cyd-drefnwyd boicot y bysiau ym Montgomery gan King ac Abernathy, ac arweiniai at dadarwahanu'r bysiau.

Ym 1957 sefydlwyd y Southern Christian Leadership Conference (SCLC) gyda King yn llywydd ac Abernathy yn ysgrifennydd-drysorydd. Ymsefydlodd Abernathy yn Atlanta, Georgia, ym 1961 i weinidogaethu, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe'i dyrchafwyd yn is-lywydd yr SCLC. Yn sgil llofruddiaeth King ym 1968, fe'i olynwyd yn llywydd yr SCLC gan Abernathy. Arweiniodd yr SCLC nes iddo ymddiswyddo ym 1977 a dychwelodd i weinidogaethu Eglwys y Bedyddwyr yn Atlanta.[1]

Cyhoeddwyd ei hunangofiant, And the Walls Came Tumbling Down, ym 1989. Bu farw o drawiad ar y galon yn yr ysbyty yn Atlanta yn 64 oed.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ralph David Abernathy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2021.
  2. (Saesneg) Bart Barnes, "Ralph Abernathy dies at 64", The Washington Post (18 Ebrill 1990). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 17 Mehefin 2021.