Ralph Thomas Hotchkin Griffith
Ysgolhaig Indoleg o dras Gymreig a gofir am ei gyfieithiadau campus o lyfrau'r Veda oedd Ralph Thomas Hotchkin Griffith (25 Mai 1826 - 7 Tachwedd 1906).
Ralph Thomas Hotchkin Griffith | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mai 1826 |
Bu farw | 7 Tachwedd 1906 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd mewn Sanskrit, geiriadurwr, cyfieithydd |
Roedd yn fab i'r Parch R. C. Griffith. Cafodd ei addysg yn Warminster, Uppingham a Choleg y Frenhines, Rhydychen, lle enillodd gradd BA. Ar 24 Tachwedd 1849 cafodd ei ethol i'r Ysgoloriaeth Sansgrit yn y brifysgol honno. O 1854 ymlaen gweithiodd, dysgodd ac astudiodd yn India, e.e. fel pennaeth Coleg Benares. Ymddeolodd yn 1885 i ganolbwyntio ar ei waith ysgolheigaidd.
Ei brif waith oedd cyfieithu'r ysgrythurau Vedig i'r Saesneg. Ond yn ogystal cyfieithodd sawl gwaith Sansgrit arall, yn cynnwys y Ramayana a'r Kumara Sambhava gan Kalidasa. Ei gampwaith efallai yw ei gyfieithiad o'r Rig Veda sy'n dilyn y testun Sansgrit a sefydlwyd gan Max Müller. Mae ei ddarlleniadau yn tueddu i ddilyn rhai Sayana, ysgolhaig enwog a fu'n brif weinidog yn llys y Brenin Vijaynagar - yn ardal Bellary, Karnataka, heddiw - yn y 14g. Cyhoeddodd hefyd argraffiadau o'r Sama Veda, Yajur Veda a'r Atharva Veda.