Cytref yn yr Iseldiroedd yw'r Randstad wedi'i lunio o gyfres o ddinasoedd yng ngorllewin a gogledd canolbarth y wlad. Mae'r enw yn golygu 'Dinas yr Ymyl' yn llythrennol yr yr Iseldireg. Mae'n cynnwys pedair dinas fwya'r Iseldiroedd, Amsterdam, Rotterdam, Den Haag (Yr Hâg) ac Utrecht a'r ardaloedd a'r mân drefi o'u cwmpas, fel Almere, Delft, Dordrecht, Gouda, Haarlem, Hilversum, Leiden a Zoetermeer. Mae dinasoedd y Randstad yn llunio hanner gylch neu gilgant, ac mae'r enw yn tarddu o'r siap hwnnw.

Randstad
MathCytref Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,400,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNoord-Holland, Zuid-Holland, Utrecht, Flevoland Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Arwynebedd11,372.15 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.19083°N 4.65556°E Edit this on Wikidata
Map
Map yn dangos ardaloedd trefol y Randstad
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato