Mae Rania Llewellyn (ganwyd c.1970) yn gweithio yn y byd bancio. Daw o Ganada ond fe'i ganed yng Nghoweit. Cafodd ei haddysg hi ym Mhrifysgol y Santes Fair a Phrifysgol America yn Cairo a gweithiodd am 26 mlynedd gyda Scotiabank cyn iddi gael ei phenodi gan Laurentian Bank ym mis Hydref 2020.[1]

Rania Llewellyn
Galwedigaethgweithredwr mewn busnes, banciwr Edit this on Wikidata

Ar ôl mynychu SMU, aeth Llewellyn ymlaen i weithio mewn banc yn Iwerddon.

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed Llewellyn yng Nghoweit, ac roedd ei thad yn dod o'r Aifft a'i mam o Wlad Iorddonen. Fe’i magwyd yng Nghoweit a’r Aifft ond ymfudodd i Ganada yn 1992 ar ôl Rhyfel y Gwlff.[2]

Cyn symud i Ganada, bu'n astudio am ddwy flynedd ym Mhrifysgol America yn Cairo (1990-1992).[2] Wedi hynny, mynychodd Brifysgol y Santes Fair yn Halifax, Nova Scotia, o 1992 i 1996, gan ennill gradd Baglor Masnach mewn Cyllid ac MBA mewn Marchnata a Busnes Rhyngwladol.[3][4] Yn 2014 dyfarnwyd iddi Ddoethuriaeth Masnach er Anrhydedd o Brifysgol y Santes Fair.[5]

Bu Llewellyn yn gweithio am 26 mlynedd yn Scotiabank, gan ddechrau fel rhifwr rhan-amser.[2]

Ymgymrodd â nifer o rolau blaengar gyda Scotiabank gan gynnwys: Is-lywydd, Bancio Amlddiwylliannol; Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Roynat Capital; Uwch Is-lywydd, Bancio Masnachol, Strategaeth Twf; Uwch Is-lywydd, Cynnyrch a Gwasanaethau, Bancio Trafodion Byd-eang gan gyrraedd Is-lywydd Gweithredol, Taliadau Busnes Byd-eang.[6] Yn 2019 dyfarnwyd iddi Wobr Women in Payments ar gyfer Arweinydd Meddwl gan y Women in Payments Association am ei gwaith rhagorol yn moderneiddio diwydiant taliadau Canada.[7]

Yn ystod ei chyfnod gyda Scotiabank, bu'n hyrwyddo creu The Toronto Region Immigrant Employment Council (TRIEC) i geisio mynd i'r afael â phroblem tangyflogi mewnfudwyr.[2]

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd Laurentian Bank y byddai'n disodli'r Prif Swyddog Gweithredol dros dro Stephane Therrien a oedd wedi ymgrymryd â rôl llywydd a phrif weithredwr ers i Francois Desjardins ymddeol ym mis Mehefin 2020.[8]

Ar 2 Hydref 2023, ar ôl trafferthion gyda'r prif gyfrifiadur a barodd am wythnos ac a effeithiodd ar weithrediadau cwsmeriaid, cyhoeddodd Laurentian Bank ei bod yn ymddiswyddo ar unwaith. Ei holynydd yw Éric Provost.[9]

Bywyd personol

golygu

Mae ganddi ddau o blant gyda'i gŵr, Sean Llewellyn.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Most actively traded companies on the Toronto Stock Exchange". Pique Newsmagazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-01-18.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 White, Shelley. "A Fresh Start: How Rania Llewellyn is helping Canadian immigrants kick-start their career – Women of Influence" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 26, 2020.
  3. "Laurentian Bank's Rania Llewellyn has a message for all the doubters – Underestimate me. That'll be fun". Cyrchwyd 2021-05-15.
  4. 4.0 4.1 "Rania Llewellyn Age, Wiki, Husband, Laurentian Bank CEO, Salary, Net Worth, Biography, Children, Family, Religion". Primal Information (yn Saesneg). 2021-01-03. Cyrchwyd 2021-01-18.
  5. "Saint Mary's University | Honorary Degrees". smu.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 4, 2019. Cyrchwyd October 21, 2020.
  6. "Laurentian Bank appoints Rania Llewellyn as CEO Becomes first woman to lead a major Canadian bank". Financial Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 26, 2020. Cyrchwyd October 21, 2020.
  7. Payments, Women in. "Women in Payments Announces 2019 Award Winners". www.newswire.ca (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-14.
  8. "Press Room". Laurentian Bank Financial Group (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 22, 2020. Cyrchwyd October 21, 2020.
  9. Laurentian CEO Llewellyn Departs as Provost Takes Helm