Cyn-gadfridog Serbaidd o wlad Bosnia yw Ratko Mladić (Serbeg: Ратко Младић, ganwyd 12 Mawrth 1943) a wasanaethodd yn Bennaeth Staff Byddin Republika Srpska yn ystod Rhyfel Bosnia.

Ratko Mladić
Ganwyd12 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Božanovići Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Republic of Serbian Krajina, Republika Srpska, Bosnia a Hertsegofina Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, milwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the People's Army, Urdd brawdoliaeth a undod Edit this on Wikidata

Ymunodd â Byddin Pobl Iwgoslafia ym 1965, a daeth i sylw'r byd yn ystod Rhyfel Bosnia (1992–95) pan arweiniodd lluoedd Republika Srpska, sef y weriniaeth Serbaidd ethnig yn y wlad a elwir heddiw Bosnia-Hertsegofina. Fel pennaeth y fyddin, roedd ganddo gyfrifoldeb trwy orchymyn dros Warchae Sarajevo (1992–96) a chyflafan Srebrenica.[1] Ym 1995 cafodd ei dditio gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia (ICTY) am hil-laddiad, troseddau rhyfel, a throseddau yn erbyn dynoliaeth. Wedi'r rhyfel, bu helfa hir i ddal Mladić a throseddwyr honedig eraill o'r rhyfel, gan gynnwys y cyn-arlywydd Republika Srpska Radovan Karadžić.[2][3][4]

Cafodd ei arestio gan luoedd diogelwch Serbia ar 26 Mai 2011 yn Lazarevo, Serbia.[5] Cafwyd Mladić yn euog o ddeg allan o'r 11 o gyhuddiadau yn ei erbyn, a'i ddedfrydu i garchar am oes ar 22 Tachwedd 2017.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ratko Mladic – Amended Indictment, from the UN ICTY’s website, 10 October 2002
  2. "Yahoo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-13. Cyrchwyd 2017-11-22.
  3. Walker, Jamie (23 July 2008). "Radovan Karadzic: Bosnia's butcher poet". The Australian.
  4. Kavran, Olga (23 July 2008). "Bosnian Serb Leader Radovan Karadzic Arrested: What Lies Ahead". The Washington Post.
  5. Interpol. "Interpol: Wanted MLADIC, Ratko". Interpol.int. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2009. Cyrchwyd 26 May 2011. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  6. "Oes o garchar i gyn-arweinydd Serbiaid Bosnia", Golwg360 (22 Tachwedd 2017). Adalwyd ar 22 Tachwedd 2017.