Rebecca Cheptegei

Roedd Rebecca Cheptegei (22 Chwefror 19915 Medi 2024) yn rhedwr traws gwlad, pellter hir a marathon o Wganda. Roedd hi'n dal record Uganda ar gyfer y marathon mewn ras an-gymysg.

Rebecca Cheptegei
Ganwyd22 Chwefror 1991 Edit this on Wikidata
Cenia Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 2024 Edit this on Wikidata
o syndrom amharu ar organau lluosog Edit this on Wikidata
Eldoret, Moi Teaching and Referral Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Wganda Wganda
Galwedigaethrhedwr pellter-hir, rhedwr marathon Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bu farw o ganlyniad i ymosodiad gan ei phartner, a roddodd hi ar dân ar 1 Medi 2024, yn ei phreswylfa yn Sir Trans-Nzoia, Cenia.[1] [2] Roedd ei hymosodwr hefyd yn yr ysbyty ar ôl cael ei anafu yn yr ymosodiad. [3] Bu farw oherwydd methiannau organau lluosog yn Ysbyty Addysgu ac Atgyfeirio Moi yn Eldoret, yn 33 oed.[4]

Dim ond mis oedd ers iddi gystadlu yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 a gynhaliwyd ym Mharis, Ffrainc. [1][5][6][4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Olympic marathon runner fighting for life after being set on fire by boyfriend". The Independent (yn Saesneg). 2024-09-04. Cyrchwyd 2024-09-04.
  2. "Ugandan marathon runner Cheptegei burnt after being doused with petrol". Reuters. 3 Medi 2024. Cyrchwyd 4 September 2024.
  3. "Uganda Olympic athlete Rebecca Cheptegei set on fire by her former boyfriend, Kenya police say" (yn Saesneg). CBS News. AFP. 3 September 2024.
  4. 4.0 4.1 "Uganda's Olympian Cheptegei dies after being set on fire by boyfriend". Al Jazeera (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-05.
  5. "Rebecca Cheptegei: Olympic athlete dies days after being set alight by ex-boyfriend". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-05.
  6. "Ugandan Olympic runner Rebecca Cheptegei set on fire by her boyfriend". CNN.