Recha Freier
Awdures o'r Almaen a Israel oedd Recha Freier (ganwyd 1892 - 1984) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, athro, bardd, gweithredydd cymdeithasol ac addysgwr.
Recha Freier | |
---|---|
Ganwyd | Recha Schweitzer 29 Hydref 1892 Norden |
Bu farw | 2 Ebrill 1984 Jeriwsalem |
Man preswyl | Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | athro, addysgwr, bardd, llenor, gwrthryfelwr milwrol |
Priod | Moritz Freier |
Gwobr/au | Gwobr Israel |
Bywyd
golyguFe'i cysylltir gyda sefydlu mudiad Youth Aliyah, y mudiad wnaeth arbed bywydau 7,000 o blant Iddewig trwy eu helpu i adael yr Almaen a symud i Balesteina cyn ac yn ystod yr holocost. Ganed Recha Schweitzer i deulu o Iddewon Uniongred. Ei rhieni oedd Bertha (née Levy), athrawes Ffrangeg a Saesneg, a Menashe Schweitzer (1856–1929), a ddysgai nifer o bynciau mewn ysgol gynradd Iddewig. Cafodd ei magu mewn teulu oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth a dysgodd sut i ganu'r piano. Priododd y Rabbi Dr Morizt 'Moshe' Freier (1889–1969) yn 1919, a symudodd gydag ef i fyw i Eschwege, Sofia, ac yna yn 1925 i Berlin. Cawsant dri o feibion ac un ferch. Bu farw Recha yn Jerwsalem yn 1984.[1]
Gyrfa
golyguYn 1907 symudodd Recha Schweitzer a'i theulu i Silesia lle cafodd ei haddysgu gartref am gyfnod cyn mynychu'r lycée yn Glogau; yno byddai ei chyd-ddisgyblion yn tynnu arni am na fyddai'n ysgrifennu ar y Sabbath. Bu i'r sarhad a'r difrio hwn gael effaith arni weddill ei bywyd a chyfrannodd at ei phenderfyniad i fod yn Seionydd tanbaid. Cwblhaodd Recha Schweitzer ei hastudiaethau yn Breslau, gan basio arholiadau ar gyfer addysgwyr crefydd, ac astudiodd fel myfyrwraig ieitheg yn Breslau a Munich. Yn ddiweddarach, pan oedd wedi priodi ac yn magu teulu bu'n gweithio fel athrawes mewn ysgol uwchradd Almaenaidd yn Sofia, a hefyd fel awdur. Dyfarnwyd iddi nifer o wobrau yn ystod ei bywyd, yn eu plith, doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Hebraeg Jerwsalem yn 1975 a Gwobr Israel (1981) am ei chyfraniad arbennig i gymdeithas a Gwladwriaeth Israel. Wedi ei marwolaeth, sefydlwyd y Recha Freier Educational Center yn Kibbutz Yakum ger Tel Aviv er anrhydedd iddi. Roedd yn awdur toreithiog a gyhoeddodd weithiau megis Arbeiterinnen erzählen (llythrennol: straeon sy'n cael eu hadrodd gan weithwyr benywaidd) Berlin, 1935, Fensterläden (llythrennol: caeadau ffenestro), Hamburg, 1979, Let the Children Come: The Early History of Youth Aliyah, London, 1961. Gwnaeth gyfraniad yn ogystal i fyd cerdd a'r byd opera, gan sefydlu Cronfa Cyfansoddwr Israel yn 1958, Gŵyl 'Testimonium' yn 1966 (er mwyn gosod straeon o ddigwyddiadau canolog ym mywyd y bobl Iddewig i gerddoriaeth) ac aeth ati i ysgrifennu nifer o libretti ar gyfer cyfansoddwyr Iddewig.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gudrun Maierhof (2009). "Recha Freier". Jewish Women: A Comprehensive Historical Encyclopedia. Jewish Women's Archive. Cyrchwyd 7 December 2015.
- ↑ "Israel Prize Official Site - Recipients in 1981 (in Hebrew)".
- ↑ Hirschberg (2017), pp. 326-329.