Dinas yng ngorllewin Gwlad Pwyl yw Wrocław (Almaeneg: Breslau). Mae hi'n brifddinas rhanbarth Silesia Isaf, a dinas bwysicaf tiriogaeth Silesia. Saif ar afon Oder. Mae hi'n bedwaredd dinas Gwlad Pwyl o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 638,401 yn 2003.

Wrocław
Mathdinas gyda grymoedd powiat Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVratislaus I, Duke of Bohemia Edit this on Wikidata
Poblogaeth672,929 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1214 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJacek Sutryk Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, CET, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Vienne, Reinickendorf, Breda, Guadalajara, Hradec Králové, Dresden, Wiesbaden, Cawnas, Charlotte, Lille, Lviv, Ramat Gan, Hrodna, Skopje, Vienne, Vilnius, Kyiv Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLower Silesian Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd293 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr111 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Oder, Ślęza, Oława, Widawa, Bystrzyca Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGmina Wisznia Mała, Gmina Czernica, Gmina Długołęka, Gmina Kąty Wrocławskie, Gmina Kobierzyce, Gmina Miękinia, Gmina Oborniki Śląskie, Gmina Siechnice Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.11°N 17.0325°E Edit this on Wikidata
Cod post50-041, 50-325 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Wroclaw Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJacek Sutryk Edit this on Wikidata
Map

Efallai i'r ddinas gael ei henw oddi wrth Vratislav I, brenin Bohemia (915-921). Vratislavia yw'r ffurf Ladin ar enw'r ddinas. Yn ddiweddarach, daeth dan reolaeth brenin Gwlad Pwyl. Daeth yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd pan ddaeth yn rhan o Bohemia gyda gweddill Silesia yn 1335. Sefydlwyd prifysgol yma yn 1526. Wedi'r Rhyfel Silesaidd Cyntaf, daeth yn rhan o deyrnas Prwsia, ac o 1871 ymlaen yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1939, Breslau oedd trydedd dinas yr Almaen, gyda phoblogaeth dros 650,000. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth yn eiddo Gwlad Pwyl fel Wrocław. Gorfodwyd llawer o'r trigolion Almaenig i adael y ddinas a symud tua'r gorllewin, i'r tiriogaethau oedd yn parhau yn rhan o'r Almaen.

Dynodwyd yr Jahrhunderthalle ("Neuadd y Canmlwyddiant") yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2006.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Kościół Św. Elżbiety (Eglwys Sant Elisabeth)
  • Ostrów Tumski (ynys, gyda'r eglwys gadeiriol)
  • Panorama Racławicka
  • Palas Wrocław
 
Canol Wrocław, gyda'r Magdalenenkirche
 
Breslau

Pobl enwog o Wrocław / Breslau

golygu