Dinas yn ne-orllewin canolbarth Tiwnisia yw Redeyef (Arabeg: الرديف), a leolir i'r gorllewin o Gafsa ac i'r dwyrain o'r ffin rhwng Tiwnisia ac Algeria yn Gafsa. Mae'n gorwedd yng nghanol un o'r ardaloedd pwysicaf yn y byd am fwyngloddio ffosffad. Poblogaeth: 26,143 (2004).[1]

Redeyef
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGafsa Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau34.383°N 8.15°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'n ganolfan mwyngloddio ffosffad, a anfonir ar hyd y rheilffordd i Métlaoui, 53 km i'r dwyrain, gan fynd trwy geunentydd Selja. Agorwyd y mwynglawdd yn 1903, ac mae'n un o'r rhai hynaf yn Nhiwnisia; y perchnogion heddiw yw'r Compagnie des phosphates de Gafsa (CPG).

Bu protestiadau yn Redeyef yng ngwanwyn 2008. Roedd y mwyngloddwyr yn cwyno am lwgrwobrwyo, diweithdra, tlodi a diffyg triniaeth am afiechydon a achosir gan eu gwaith. Bu farw dau yn y protestiadau.[2] Parhaodd yr anghydfod. Bu protestiadau yn Redeyef yn ystod intifada 2010-2011.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cyfrifiad 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-01-06.
  2. Le Monde, Gorffennaf 2008.

Dolenni allanol golygu