Rees Arthur Rees (Rhys Dyfed)
Bardd o Gymru oedd Rees Arthur Rees (1837 – 8 Gorffennaf 1866), a adnabyddid wrth ei enw barddol Rhys Dyfed.[1]
Rees Arthur Rees | |
---|---|
Ffugenw | Rhys Dyfed |
Ganwyd | 1837 Penbryn |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1866 Llangynllo |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned y bardd rywbryd yn 1837 yn Felin Brithdir, Penbryn, Ceredigion. Daeth ymlaen yn dda yn yr ysgol, yn enwedig mewn mesuroniaeth (geometreg). Bu am gyfnod yn brentis mewn siop yn Rhydlewis, ac ymhen rhai blynyddoedd aeth i fyw a gweithio yn Lerpwl, ac oddi yno aeth yn ei flaen i Lundain. Ond yn 1860 dychwelodd gartref i Geredigion pan waethygodd ei iechyd a bu yno hyd ei farw ar 8 Gorffennaf 1866. Cafodd ei gladdu yn eglwys Llangynllo.[1]
Llenydda
golyguRoedd yn awyddus am wybodaeth a llwyddodd i'w ddiwyllio ei hun. Dysgodd Saesneg yn ddigon da i gyfansoddi barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith honno. Fel nifer yn ei oes roedd yn eisteddfodwr brwd. Cipiodd y wobr yn eisteddfod Llandudno (1864) am y farwnad 'Carn Ingli'. Roedd yn ail am gân ar 'Llywelyn ein Llyw Olaf' yn eisteddfod yr Hendy-gwyn ar Daf (1865).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Cymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.