Rees Jones (Amnon)
Bardd gwlad o Geredigion oedd Rees Jones (8 Hydref 1797 – 15 Chwefror 1844), neu Amnon. Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn rhan uchaf Dyffryn Cletwr, ger pentref Talgarreg, plwyf Llanarth. Tir Dyffryn Cletwr oedd yr enw am yr ardal honno yn oes y bardd.[1]
Rees Jones | |
---|---|
Ffugenw | Amnon |
Ganwyd | 8 Hydref 1797 Talgarreg |
Bu farw | 15 Chwefror 1844 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguCafodd rywfaint o addysg dan David Davis yn ysgol Castellhywel, ond bu rhaid iddo adael yn ifanc oherwydd tlodi ei rieni i weithio ar y fferm deuluol yng Nghletwr.[2]
Roedd yn fardd poblogaidd a ganai ar destunau cymdeithasol lleol - bywyd y pentref, cerddi i gyfeillion a chanu am fyd y ffermwr - a phynciau crefyddol, yn bennaf. Mae ei waith yn cynnwys enghreifftiau o "gerddi gwahodd" i gael y Cwrw Bach. Cyhoeddwyd ei waith barddonol yn y gyfrol Crwth Dyffryn Clettwr. Ysgrifennai ddarnau rhyddiaith i gylchgronau a newyddiaduron fel Seren Gomer, papur Joseph Harris (Gomer).[2]
Dioddefodd gyfnod hir o afiechyd ym mlynyddoedd olaf ei oes. Bu farw ar 15 Chwefror 1844, yn 46 oed, a chladdwyd ef ar y 19eg wrth gapel Pantydefaid.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Rees Jones (Amnon), Crwth Dyffryn Clettwr (1848; argraffiad newydd, Aberdâr 1906).
- Rees Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig