Talgarreg

pentref yng Ngheredigion

Pentref yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, Cymru, yw Talgarreg.[1] Fe'i lleolir yn ne'r sir ar groesffordd ar y B4459, tua hanner ffordd rhwng y Ceinewydd a Llandysul.

Talgarreg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1341°N 4.3004°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN426510 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Gorwedd Talgarreg ym mhlwyf eglwysig Llanarth. Llifa Afon Cletwr heibio i'r pentref ar ei ffordd i ymuno ag Afon Teifi tua 7 milltir i'r de. 'Tir Dyffryn Cletwr' yw'r enw traddodiadol am yr ardal.

Mae Talgarreg yn bentref Cymraeg ei hiaith o hyd, gyda'r mwyafrif yn siarad yr iaith.

Mae Talgarreg yn gartref i nifer o fusnesau bach a ffermydd, yn bennaf defaid a llaeth. Mae ganddi hefyd dafarn, Glan-yr-Afon Arms, sydd yng nghanol y pentref.

Cynrychiolir y pentref yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2][3]

Enwogion golygu

  • Rees Jones (Amnon) (1797-1844), bardd. Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn rhan uchaf Dyffryn Cletwr, ger Talgarreg.
  • Rees Cribin Jones (1841-1927), gweinidog Undodaidd ac athro, a anwyd yn Nhalgarreg.
  • Thomas Cynfelyn Benjamin (1850-1925), bardd, gweinidog, ac enillydd nifer o anrhydeddau eisteddfodol. Ar ôl blynyddoedd lawer yn America, dychwelodd i Gymru, gan wasanaethu fel gweinidog Capel Pisgah ger Talgarreg rhwng 1898 a 1905.[4]
  • Sarnicol (Thomas Jacob Thomas,, 1873-1945), athro a bardd.[5]
  • Dewi Emrys (David Emrys James, 1881-1952), bardd, a'r unig berson i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith. Symudodd i fyw gyda'i ferch Dwynwen, yn Y Bwthyn, Talgarreg, yn 1941. Yn y fan honno dreuliodd gweddill ei oes. Bu farw yn Aberystwyth ym mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ger Talgarreg.[6]
  • T. Llew Jones (Thomas Llewelyn Jones, 1915-2009), bardd a llenor toreithiog, ac yn gyn-athro yn Ysgol Gynradd Talgarreg.[7]
  • David Jacob Davies (1916-1974), gweinidog, llenor a darlledwr. Fe'i gladdwyd ym mynwent Bwlchyfadfa, ar gyrion Talgarreg.
  • Eirwyn Pontshân (Gwilym Eirwyn Jones, 1922-1994), diddanwr a chenedlaetholwr. Fe'i anwyd yn Nhalgarreg, a dychwelodd i fyw yn y pentref yn ddiweddarach yn ystod ei oes.
  • Gillian Clarke (g. 1937), bardd sy'n byw yn y pentref.
  • Cynog Dafis (g. 1938), cyn-wleidydd Plaid Cymru, a fu'n byw yn y pentref.
  • Donald Evans (g. 1940), bardd; brodor o Dalgarreg. Mae'n un o dri bardd yn unig sydd wedi ennill y Gadair a'r Goron yn yr un Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - "y dwbwl dwbwl".[8][9]
  • Meinir Mathias, arlunydd.
  • Mari Mathias, cantores.

Addysg golygu

Ysgol Gymunedol Talgarreg golygu

Nid ysgol bresennol Talgarreg yw ysgol gyntaf yr ardal, ond hon yw’r ysgol gyntaf a sefydlwyd dan gyfrifoldeb yr Awdurdod. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn 1875 ac agorwyd yr ysgol yn 1877 gyda hyd at 147 o ddisgyblion y flwyddyn honno.[10]

Ysgol gymunedol go iawn yw Talgarreg ymhob ystyr o'r gair gyda'r gymuned â'i diwylliant cyfoethog yn arwain ac yn llywio'r gweithgarwch a hynny yn cael ei gynnal a’i hybu gan y staff.

Yn naturiol ac yn unol â'i threftadaeth, ysgol Gymraeg ei hiaith a Chymreig ei natur yw Ysgol Talgarreg a dathlir a hyrwyddir hynny pob cyfle posibl.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae rhwng 30 a 70 o blant wedi bod yn mynychu'r ysgol.[10]

Gefeillir yr ysgol â Skol Diwan, Guingamp, yn Llydaw.[5]

Cylch Meithrin Talgarreg golygu

Mae Cylch Meithrin Talgarreg yn aelod o Mudiad Meithrin. Agorwyd y Cylch yn 1975 yn yr ysgol a symudwyd yng nghanol y nawdegau i’r neuadd. Caeodd y Cylch ei drysau yn 2003, ond ail agorwyd y Cylch Ti a Fi yn Ionawr 2007 a’r Cylch Meithrin ym Medi 2007 ac mae’n dal i fynd o nerth i nerth.

Darperir addysg a gofal i blant bach o ddwy i bedair oed a nod y Cylch ydy creu awyrgylch gartrefol, hapus a diogel er mwyn i blant flodeuo. Maent yn gwrando ar lais y dysgwr wrth ddarparu gweithgareddau addysgiadol sydd o ddiddordeb i bawb, trwy gyfrwng y Gymraeg.[10]

Ysgol Sul golygu

Cynhelir Ysgol Sul yng nghapel Pisgah, ger Talgarreg.[10]

Addoldai golygu

Capel Pisgah golygu

Sefydlwyd Capel Annibynwyr Pisgah yn 1820-21. Fe'i hailadeiladwyd ym 1871 ar sail y Capel cyntaf ond gan ei gwneud yn fwy o faint oherwydd y twf yn y gynulleidfa.[5] Mae'n un o chwe chapel o dan ofalaeth y Parch Carys Ann BA.  Ceir dwy oedfa y mis gyda’r Gweinidog, gyda’r Suliau eraill yn cael eu cymryd gan wahoddedigion.[10]

Capel y Fadfa golygu

Mae Capel y Fadfa yn un o dri ar ddeg o gapeli Undodaidd yn Ne Ceredigion.[10] Cytunwyd i adeiladu'r Capel cyntaf ym Mwlchyfadfa ym 1812, a gosodwyd y garreg sylfaen i'r Capel presennol ym 1905.[5]

Nid oes cyfyngiadau ar ddaliadau penodol – anogir unigolion i weithio ar ei ffydd eu hunain. Yr egwyddor yw bod gan unigolion ryddid i safbwyntiau a chredoau sydd yn seiliedig ar gariad gan hwyluso goddefgarwch tuag at safbwyntiau eraill.

Mae’r gynulleidfa yn cyfarfod bob pythefnos trwy gyfrwng y Gymraeg.[10]

Eglwys Dewi Sant Talgarreg golygu

Cafwyd agoriad swyddogol Eglwys Dewi Sant ar y 19eg o Fai, 1899.[5] Yn ôl yr arfer, mae Eglwys Talgarreg yn cynnal gwasanaethau dwyieithog bob pythefnos, sef y Sul cyntaf a’r trydydd o bob mis, sy’n cynnwys Boreol Weddi a Chymun.[10]

Sefydliadau a Chymdeithasau eraill golygu

Neuadd Goffa Talgarreg golygu

Adeiladwyd y Neuadd Goffa i gofio am fechgyn o’r ardal a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd 1914-1918.[10] Agorwyd y Neuadd ar yr 11eg o Orffennaf, 1923.[5]

Mae’r Neuadd yn adnodd cymunedol sy’n cael ei redeg gan Bwyllgor sydd â'i aelodau yn gynrychiolwyr o amrywiol sefydliadau'r pentref. Aelodau'r Pwyllgor, yn eu tro yn fisol, sydd hefyd yn glanhau’r Neuadd.

Ar hyd y blynyddoedd mae’r Pwyllgor wedi llwyddo i ddenu grantiau o amrywiol lefydd i allu gwneud gwelliannau i'r adeilad ac i brynu tir i ddarparu maes parcio i'r defnyddwyr.

Mae defnydd helaeth yn cael ei wneud o’r Neuadd gan y Cylch Meithrin, yr ysgol, Merched y Wawr a’r gwersi ioga.

Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau yn y Neuadd – boreau coffi, swper i'r ardalwyr, dramâu, cyngherddau, te bedydd, partion penblwydd ac ambell i wledd briodas.

Mae’r Neuadd ar gael i bawb i’w logi ar gyfer digwyddiadau.

Un agwedd arbennig yn hanes y Neuadd yw’r holl waith gwirfoddol sydd yn cael ei gyflawni wrth wella a chynnal a chadw’r Neuadd a hefyd wrth ei redeg o ddydd i ddydd. Agwedd sydd yn nodweddiadol o holl weithgarwch y pentref hwn ar hyd y blynyddoedd.[10]

Aelwyd ac Adran yr Urdd golygu

Cynhaliwyd agoriad Aelwyd Talgarreg ar Ragfyr 27, 1941. Yn draddodiadol mae Aelwyd yr Urdd i bobl ifanc dros 14 ac Adran yr Urdd i'r rhai hynny dan 14, ac mae'r ddau yn rhan o fudiad Urdd Gobaith Cymru.

Prynwyd adeilad yr hen ffatri wlân yn y pentref, sydd nawr ar glôs Islwyn, gan Bwyllgor y Pentref a dyma ble roedd yr Aelwyd - ble roedd cyngherddau; dramâu; gêmau; dosbarthiadau llenyddiaeth a chrefftau gwledig; darlithoedd; gyrfaoedd chwist; a thwmpathau dawns yn cael eu cynnal.

Oherwydd dirywiad yr adeilad symudodd peth o'r gweithgarwch yn raddol i'r ysgol ac i'r Neuadd Goffa. Gwerthwyd adeilad yr Aelwyd yn y diwedd, yn 1993, i deulu Islwyn.

Ers hynny mae'r Adran wedi bod yn cyfarfod yn y Neuadd Goffa. Mae plant blynyddoedd 3 i 9 wedi bod yn cwrdd bob yn ail wythnos yn ystod tymor yr Hydref a'r Gwanwyn. Nid oes Aelwyd fel y cyfryw yn y pentref, ond mae dau Glwb Ffermwyr Ifainc hynod weithgar a bywiog yn gwasanaethu'r pentref ac yn cadw'r bobl ifainc yn brysur a hynny yn llwyr ac yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg - Clwb Ffermwyr Ifainc Pontsian a Chlwb Ffermwyr Ifainc Caerwedros.[10]

Cymdeithas yr Henoed golygu

Sefydlwyd Cymdeithas Henoed Talgarreg ym mis Hydref 1967 gyda’r nod o hyrwyddo lles cyffredinol henoed Talgarreg. Mae’r Gymdeithas wedi’i chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Mae cynrychiolwyr o fudiadau’r pentref yn aelodau o bwyllgor y Gymdeithas.

Mae nifer o newidiadau wedi’u gweld ers sefydlu’r Gymdeithas ond mae’r nod yn dal yr un peth, sef creu cyfleoedd i gymdeithasu ac i ddod â phobl ynghyd. Erbyn hyn, diffinir yr Henoed fel trigolion 70+ oed o fewn côd post Talgarreg sydd wedi byw o fewn y dalgylch ers dwy flynedd.[10]

Mabolgampau golygu

Mae diwrnod mabolgampau'r pentref yn digwydd unwaith y flwyddyn yn ystod yr haf.

Erbyn hyn mae'r diwrnod yn cael ei gynnal yng nghae chwarae’r ysgol. Mae'r gweithgarwch wedi amrywio ychydig dros y blynyddoedd - gyda charnifal i ddechrau - gyda fflôt o Dalgarreg, Pantcoch, Pisgah a Bwlchyfadfa; ac yna cystadlaethau gwisg; rasys o bob math, gan gynnwys y Ras Llwybr Tarw; gemau rownderi; cystadleuaeth Tynnu Rhaff; a Helfa Drysor yn digwydd y noson gynt. Hyd yn o ddiweddar roedd Sioe Gŵn hefyd yn rhan o'r diwrnod.

Cynhaliwyd diwrnod mabolgampau’r pentref am y tro cyntaf yn 1956.[10][5]

Merched y Wawr golygu

Sefydlwyd Merched y Wawr Talgarreg ar 15fed o Fawrth 1968, un o ganghennau cyntaf sir Geredigion.

Pwrpas y mudiad oedd bod menywod a oedd heb y cyfle na’r amser i fynd allan i weithio oherwydd amgylchiadau teuluol, fel magu plant a helpu ar y fferm deuluol, yn cael cyfle i gymdeithasu a dysgu sgiliau newydd, fel gwau, crosio, trefnu blodau, caligraffi ac yn y blaen, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r gangen yn cwrdd yn fisol ar nos Fawrth cyntaf y mis yn y Neuadd Goffa.[10]

Cymdeithas Henebion Talgarreg golygu

Mae Cymdeithas Henebion Talgarreg yn cwrdd ers dros chwarter canrif, yn cwrdd yn nhafarn Glan-yr-afon unwaith y mis, ar ddyddiau Iau olaf y mis fel arfer.

Mae'r Gymdeithas yn cynnal sioe yn flynyddol yn y pentref - Sioe Hen Beiriannau, Gweithio a Chynnyrch gydag elw o'r sioe yn mynd at achosion da o ddewis y Gymdeithas.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 17 Rhagfyr 2019
  2. "Dod o hyd i Aelod o'r Senedd". Senedd Cymru.
  3. "Find your MP". Senedd y DU.
  4. Owens, B. G., (1997). WILLIAMS, DAVID PRYSE ('Brythonydd '; 1878 - 1952), gweinidog (B), llenor, a hanesydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 15 Gor 2021, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-WILL-PRY-1878
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 Jones, E. Lloyd (2003). Hanes Talgarreg. Gwasg Gomer, Llandysul.
  6. "JAMES, DAVID EMRYS ('Dewi Emrys '; 1881 - 1952), gweinidog (A), llenor a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-01-22.
  7. "JONES, THOMAS LLEWELYN (1915-2009), bardd a llenor toreithiog | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-01-22.
  8. "Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol" (yn cy), Wicipedia, 2023-08-19, https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cadair_yr_Eisteddfod_Genedlaethol&oldid=11847470, adalwyd 2024-01-22
  9. "Coron yr Eisteddfod Genedlaethol" (yn cy), Wicipedia, 2023-08-19, https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Coron_yr_Eisteddfod_Genedlaethol&oldid=11847503, adalwyd 2024-01-22
  10. 10.00 10.01 10.02 10.03 10.04 10.05 10.06 10.07 10.08 10.09 10.10 10.11 10.12 10.13 10.14 Croeso i Dalgarreg / Welcome (llyfryn). Argraffwyd dan nawdd Cyngor Cymuned Llandysiliogogo. 2023.

Dolenni allanol golygu