Joseph Harris (Gomer)
Awdur ar destunau crefyddol, gweinidog, emynydd a golygydd dylanwadol o Gymru oedd Joseph Harris (1773 – 10 Awst 1825), neu Gomer. Cymerodd ei enw barddol oddi wrth y cymeriad Beiblaidd Gomer, fab Jaffeth, a ystyrid yn un o gyndeidiau'r Cymry diolch i ddylanwad gwaith Theophilus Evans. Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel golygydd Seren Gomer, y newyddiadur Cymraeg cyntaf.
Joseph Harris | |
---|---|
Ffugenw | Gomer |
Ganwyd | 1773 Llanddewi Efelffre, Cas-blaidd |
Bu farw | 10 Awst 1825 Unknown |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, argraffydd, llyfrwerthwr, cyhoeddwr, rhwymwr llyfrau |
Adnabyddus am | Seren Gomer |
Plant | John Harris |
Gyrfa
golyguGaned Joseph Harris yn fab i amaethwr tlawd ym mhlwyf Llantydewi (Casblaidd), Sir Benfro, yn 1773. Roedd ei dad yn gwrthod addysg iddo ac yn ceisio ei rwystro rhag dysgu darllen a sgwennu hyd yn oed. Yn 1801 symudodd i fyw yn Abertawe, yn fuan ar ôl dod yn weinidog gyda'r Bedyddwyr. Bu'n cadw siop lyfrau, argraffwasg ac ysgol yn y dref honno. Priododd a chafodd fab, "Ieuan Ddu", bardd addawol a fu farw yn 21 oed.
Fel diwinydd, amddiffynnodd athrawiaeth Trindodiaeth. Cyhoeddodd sawl pamffled a llyfryn ar y pwnc, yn Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddodd hefyd gasgliad o emynau.
Yn 1814 daeth yn olygydd y newyddiadur newydd Seren Gomer, a chafodd felly ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.
Roedd Gomer yn weithiwr cadarn dros yr iaith Gymraeg, ac er bod ei waith ei hun, fel gwaith sawl llenor arall o'r 19g, yn tueddu i ddilyn cystrawennau'r Saesneg yn ormodol, gwnaeth lawer i ysbrydoli ei gyd-Gymry i ymgeledd a pharchu'r iaith mewn cyfnod a welai gynnydd aruthrol yn nylanwad y Saesneg a'i llenyddiaeth ar fywyd Cymru.
Bu farw o afiechyd - canlyniad y straen o weithio'n ormodol efallai a cholli ei unig fab mor ifanc - yn 1825.
Llyfryddiaeth
golyguGwaith Gomer
golygu- Bwyall Crist yng Nghoed Anghrist (1804)
- Traethawd ar Briodol Dduwdod ein Harglwydd Iesu Grist (1816-17)
- Casgliad o Hymnau (1821)
- Cofiant Ieuan Ddu (?1824). Cofiant ei fab.
Llyfrau amdano
golygu- D. Rhys Stephen, Cofiant Gomer (1839)
- Glanmor Williams, 'Gomer, sylfaenydd ein llenyddiaeth gyfnodol', Y Cymmrodor (1982)