Refferendwm annibyniaeth Ynysoedd Ffaröe, 1946
Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth Ynysoedd Ffaro oddi ar Denmarc ar 14 Medi 1946. Daeth hyn yn sgîl datganiad Gwlad yr Iâ (gwlad arall a reolwyd gan Ddenmarc) yn weriniaeth annibynnol yn 1944. Yn ychwanegol at hyn, wedi goresgyniad Denmarc gan yr Almaen yn 1940, torrwyd y cysylltiad rhwng Ynysoedd Ffaro â Llywodraeth Denmarc a bu Ynysoedd Ffaro i bob pwrpas yn hunanlywodraethol ac o dan reolaeth filwrol lluoedd Prydain a'r Cynghreiriaid am weddill yr Ail Ryfel Byd.
Mae canlyniad y Refferendwm yn dal i fwrw ei gysgod dros yr Ynysoedd ddegawdau wedi'r digwyddiad gyda gwleidyddiaeth y wlad yn dal i seilio i raddau helaeth ar agweddau pleidiau at annibyniaeth. Mae cryfder barn yr Ynysoedd ar faterion hunanlywodraethol i'w gweld yn y modd mae'r Ynysoedd yn dal yn rhan o Frenhiniaeth Denmarc gan ddanfon dau aelod seneddol i senedd-dy, Denmarc yn Copenhagen, ond, yn wahanol i Ddenmarc, nid yw'r Ynysoedd yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Canlyniad
golyguRefferendwm Annibyniaeth Ffaro, 1946 | ||
Dewis | Pleidleisiau | % |
---|---|---|
Ydy / Ie | 5,660 | 50.73 |
No | 5,499 | 49.27 |
Pleidleisiau cymwys | 11,159 | 95.87 |
Pleidleisiau anghymwys | 481 | 4.13 |
Cyfanswm pleidleisiau | 11,640 | 100.00 |
Etholwyr cofrestredig a nifer angenrheidiol | 17,216 | 67.52 |
Source: Direct Democracy |
Canlyniad fesul Ynys
golyguYnys | Parhau Uniad â Denmarc | Gwadael Denmarc | Pleidleisiau annilys | Cyfanswm | Pleidlais | Nifer bleidleisiodd | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Norðoyar | 398 | 28.1% | 954 | 67.3% | 65 | 4.6% | 1,417 | 2,220 | 63.8% |
Eysturoy | 1,372 | 54.4% | 1,051 | 41.6% | 101 | 4.0% | 2,524 | 3,854 | 65.5% |
Norðurstreymoy | 544 | 45.2% | 621 | 51.6% | 38 | 3.2% | 1,203 | 1,679 | 71.6% |
Vágar | 434 | 40.0% | 616 | 56.7% | 36 | 3.3% | 1,086 | 1,485 | 73.1% |
Suðurstreymoy | 673 | 31.7% | 1,309 | 61.7% | 138 | 6.5% | 2,120 | 3,323 | 63.8% |
Sandoy | 286 | 36.5% | 465 | 59.4% | 32 | 4.1% | 783 | 1,053 | 74.4% |
Suðuroy | 1,783 | 71.6% | 640 | 25.7% | 68 | 2.7% | 2,491 | 3,602 | 69,2% |
Cyfanswm | 5,490 | 47.2% | 5,656 | 48.7% | 478 | 4.1% | 11,624 | 17,216 | 67.5% |
Ôl-refferendwm
golyguCanlyniad y Refferendwm oedd 50.73% o blaid a 49.27% yn erbyn.[1] Cyhoeddodd Ynysoedd Ffaro ei hannibyniaeth ar 18 Medi 1946; ond serch hynny, cyhoeddwyd fod y refferendwm yn annilys gan lywodraeth Denmarc ar 20 Medi ar y sail nad oedd mwyafrif pleidleiswyr yr Ynysoedd wedi cefnogi annibyniaeth ac ar 24 Medi diddymwyd senedd Ynysoedd Ffaroe, y Løgting gan Frenin Denmarc, Christian X.[2][3] Diddymwyd y Løgting ar 8 Tachwedd a dilynwyd hyn gan etholiad 1946 Ynysoedd Ffaro lle enillodd y pleidlau oedd o blaid annibyniaeth lawn 5,396 pleidlais yn erbyn 7,488 y pleidiau oedd yn erbyn annibyniaeth.[4] Fel ymateb i'r galw cynyddol dros hunan-lywodraeth ac annibyniaeth, fe gytunodd Denmarc i stadud hunanlywodraeth ar 30 Mawrth 1948.[2]
Dyfodol Cyfansoddiadol yr Ynysoedd
golyguAr 2 Chwefror 2017 cyhoeddodd Llywodraeth y Ffaro eu bod am gynnal Refferendwm yn 2018 ar ragor o hunanlywodraeth[5] (er, nid annibyniaeth) ar 25 Ebrill 2018. Bydd cwestiwn y Refferendwm yn seiliedig ar gytundeb o fewn y Llywodraeth a'r farn gyhoeddus ar y pwerau hoffai'r Ynysoedd eu cael. Cynhelir y refferendwm ar 25 Ebrill 2018.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Faroe Islands, 14 September 1946: Status Direct Democracy (Almaeneg)
- ↑ 2.0 2.1 Faeroe Islands World Statesman
- ↑ Steining, Jørgen (1953). "Rigsdagen og Færøerne". In Bomholt, Jul.; Fabricius, Knud; Hjelholt, Holger; Mackeprang, M.; Møller Andr. (eds.) (gol.). Den danske rigsdag 1849-1949 bind VI (yn Danish). Copenhagen: J. H. Schultz Forlag. t. 187.CS1 maint: extra text: editors list (link) CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Steining, t. 188.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-19. Cyrchwyd 2017-06-26.